Cofrestru fy mhlentyn ar gyfer Trip ar y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Gallwch chi gofrestru eich plentyn ar gyfer trip gan ddefnyddio’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni.

  • Os na allwch chi gofrestru, cysylltwch â’ch ysgol. Bydd angen i’r ysgol ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
  • Sylwch y bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol wedi i chi gofrestru, os hoffech chi ganslo cyfranogiad neu os hoffech chi gael ad-daliad.

Ar y Porth Rhieni 

O brif dudalen y Porth Rhieni, cliciwch ar y maes Tripiau o fewn yr adran Gweithgareddau.

Mae’r brif dudalen Tripiau yn cynnwys tair adran - mae Tripiau Cyn Bo Hir yn golygu unrhyw dripiau y mae’r plentyn wedi cofrestru ar eu cyfer ar hyn o bryd, mae Tripiau Blaenorol yn golygu tripiau sydd wedi digwydd, ac mae Tripiau Agored yn golygu unrhyw dripiau y gall y plentyn fod wedi’i gofrestru ar eu cyfer ar hyn o bryd.

I ddechrau cofrestru plentyn ar gyfer trip, cliciwch ar y trip y mae’n dymuno mynd arno yn yr adran Tripiau Agored

 

Ar y dudalen Trosolwg o Dripiau, gallwch chi weld manylion yn ymwneud â’r trip, fel dyddiad, amser a phris. Cliciwch ar Cofrestru i ddechrau’r broses gofrestru.

 

Tripiau sy’n rhad ac am ddim

Bydd dewislen llithro drosodd yn ymddangos lle gallwch chi ychwanegu cydsyniad (os yw eich ysgol yn gofyn am hyn) ar gyfer y trip trwy roi tic yn y blwch ticio, a thicio Ychwanegu Cydsyniad.

 

Ar ôl cadarnhau cydsyniadau, eir â chi yn ôl at y dudalen Trosolwg o Dripiau. Byddwch chi’n nawr yn gweld bod y maes Statws wedi cael ei ddiweddaru i ‘wedi’i gadarnhau’ (gan dybio na wrthodwyd cydsyniad). 

Wrth fynd yn ôl at y dudalen Yr Holl Dripiau, bydd y trip yn awr yn cael ei arddangos yn yr adran Tripiau Cyn Bo Hir, yn hytrach na’r adran Tripiau Agored.

 

Tripiau am Dâl

Mae’r broses ychydig yn wahanol ar gyfer tripiau y mae angen talu amdanynt. Wrth gofrestru’r myfyriwr ar gyfer trip am dâl, cliciwch ar y trip i fynd â chi at y dudalen sy’n rhoi trosolwg o dripiau. Cliciwch ar y botwm Cofrestru.

Nid oes opsiwn i gydsynio ar gyfer trip am dâl, gan fod lle’r myfyriwr yn cael ei gadarnhau yn hytrach gan y taliad a wneir tuag ato.

 

Bydd dewislen llithro drosodd yn ymddangos lle gallwch chi ychwanegu’r swm y byddwch yn ei dalu os gallwch chi ychwanegu rhandaliadau. Bydd swm y taliad yn dychwelyd i’r isafswm taliad, fel mater o drefn.

Gallwch chi ond dewis mwy na’r uchafswm taliad neu lai na’r isafswm os yw eich ysgol wedi dewis caniatáu cyfraniadau gwirfoddol neu amrywiol.

Wedyn, gallwch chi dalu nawr neu ychwanegu’r taliad at eich basged i dalu yn ddiweddarach.

Cyngor Da: Ddim yn gallu clicio ar y botwm? Dilynwch yr erthygl hon: Galla’ i ddim clicio ar y botwm i dalu? 

 

Gallwch chi ond cofrestru heb dalu os yw eich ysgol wedi dewis caniatáu cyfraniadau gwirfoddol neu amrywiol ac nid yw’n derbyn rhandaliadau.

 

Wedi i chi glicio ar Talu, Ychwanegwch fanylion eich cerdyn, wedyn clicio ar Talu.

Cyngor Da: Ddim yn gallu clicio ar y botwm? Dilynwch yr erthygl hon: Alla’ i ddim clicio ar y botwm i dalu?

 

Efallai y bydd rhaid i chi wedyn ddilysu pwy ydych chi er mwyn i’r taliad fynd trwodd. Mae hyn yn ofyniad o’r Rheoliadau Dilysiad Cryf Cwsmer (SCA) a gyflwynwyd yn ddiweddar. 

Os oes angen dilysiad ar gyfer y taliad, byddwch yn cael eich annog i ddilysu’r taliad gan ddefnyddio dull dilysu y mae eich banc yn ei gefnogi. Gallai hwn fod:

  • yn god SMS,
  • yn ap bancio ar eich ffôn symudol  
  • yn ddull arall 

Wedi i ni allu cadarnhau pwy ydych chi, bydd y taliad yn cael ei gwblhau a chodir tâl ar eich cerdyn. Byddwch yn gweld cadarnhad y bu’r trafodiad yn llwyddiannus.

 

Os ydych chi wedi talu’r pris llawn am y trip neu os yw eich ysgol yn caniatáu cyfraniadau amrywiol, bydd statws y trip yn newid wedyn i ‘wedi’i gadarnhau’, a bydd y trip yn ymddangos ar y dudalen Yr Holl Dripiau yn y Tripiau Cyn Bo Hir, yn hytrach na’r adran Tripiau Agored.

 

Os oes gennych chi fwy ar ôl i’w dalu, cliciwch ar y balans sy’n weddill ar eich hafan.

 

Dewiswch y trip i ychwanegu mwy o daliadau ato.

 

Mae’r swm sydd gennych ar ôl i’w dalu yn cael ei arddangos ar dop y dudalen a gallwch chi wneud taliad arall os yw eich ysgol yn caniatáu hyn.

 


Ar yr Ap Rhieni

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

I gofrestru ar gyfer trip, cliciwch ar eicon y ddewislen ar waelod eich sgrin ar yr ochr chwith. Dewiswch Tripiau.

 

Mae’r brif dudalen Tripiau yn cynnwys tair adran - mae Tripiau Cyn Bo Hir yn golygu unrhyw dripiau y mae’r plentyn wedi cofrestru ar eu cyfer ar hyn o bryd, mae Tripiau Blaenorol yn golygu tripiau sydd wedi digwydd, ac mae Tripiau Agored yn golygu unrhyw dripiau y gall y plentyn fod wedi’i gofrestru ar eu cyfer ar hyn o bryd.  

 

Dewiswch y trip i gyrraedd y Trosolwg o’r Trip. Cliciwch ar y botwm gwyrdd i gofrestru ar gyfer y trip a thalu, os oes angen.

 

Ar y dudalen nesaf, os nad oes angen taliad, gallwch chi gofrestru trwy gydsynio.

 

Os nad oes angen taliad ond eich bod yn cael rhoi cyfraniad gwirfoddol, gallwch chi ddewis yr opsiwn hwn.

 

Os yw’n drip y mae’n rhaid i chi dalu amdano, gallwch chi wedyn ychwanegu’r taliad at eich basged.

 

Os oes gennych chi fwy ar ôl i’w dalu, cliciwch ar y balans sy’n weddill ar eich hafan, wedyn clicio ar y trip.

 

Wedyn, gallwch chi ychwanegu mwy o daliadau at y fasged.

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
19 allan o 67 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.