Defnyddio’r Fasged i wneud taliadau ar y Porth Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Trwy ddefnyddio ein nodwedd Basged, gallwch chi ychwanegu taliadau at eich basged i’ch galluogi i dalu am glybiau, tripiau, prydau bwyd neu ychwanegu arian at gyfrifon eraill ar gyfer mwy nag un plentyn sydd i gyd yn byw ar un aelwyd mewn un taliad!


Ychwanegu taliad at y fasged

Wedi i chi fewngofnodi, ychwanegwch daliad ar gyfer Clwb, Trip neu i ychwanegu arian at gyfrif, fel Prydau Bwyd.

Ochr yn ochr â’r botwm Talu nawr, byddwch chi hefyd yn gweld yr opsiwn Ychwanegu at y fasged.

 

Byddwch chi’n cael hysbysiad i roi gwybod i chi bod y taliad wedi cael ei ychwanegu. Cliciwch ar y ddolen i fynd ymlaen i’r dudalen dalu neu cliciwch ar X i barhau a thalu yn ddiweddarach. Bydd yr hysbysiad yn diflannu ar ei ben ei hun ar ôl tua 30 eiliad.

Cofiwch, nid yw taliadau’n cael eu gwneud ac nid yw clybiau a thripiau wedi cael eu bwcio hyd nes y byddwch yn talu am yr eitemau yn eich basged!

 


Gweld a thalu am eich basged

Gallwch chi fynd i Fy Eitemau > Fy Nhaliadau o’r ddewislen ar y top i fynd at eich basged. Yn eich basged, gallwch chi weld yr holl daliadau nad ydych chi wedi eu talu eto a gwagio eich basged, os oes angen.

 

Os byddwch chi’n clicio ar daliad, gallwch chi olygu’r swm os yw’n ychwanegiad neu’n daliad sy’n derbyn cyfraniadau amrywiol a chlicio ar Cadw’r newidiadau. Gallwch chi ddileu’r taliad o’ch basged, hefyd.

 

Os byddwch chi’n ceisio golygu swm y taliad islaw’r trothwy isaf, ni fyddwch yn gallu parhau.

 

Os nad yw’n bosibl talu am rywbeth mwyach, byddwch chi’n gweld baner ar y dudalen hon a thestun coch yn esbonio’r broblem. Gallai hyn fod oherwydd bod yr ysgol eisoes wedi cofnodi taliad ar ei hochr hi, mae’r ysgol wedi dileu’r opsiynau talu, os yw uchafswm nifer y cyfranogwyr wedi’i gyrraedd neu os yw’r ffenestr gofrestru wedi cau, felly bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol i gael mwy o fanylion.

Bydd angen i chi glicio ar y botwm i ddileu’r holl daliadau nad ydych chi’n gallu talu amdanynt cyn i chi allu talu am bopeth yn eich basged.

I dalu, cliciwch ar y botwm gwyrdd Talu am yr holl eitemau yn y fasged ac ychwanegu manylion eich cerdyn – mae Arbor yn derbyn Visa neu Mastercard yn unig. Efallai y gofynnir i chi roi dilysiad, hefyd.

 


Nodyn pwysig ar glybiau

Nodyn pwysig ar glybiau: Hyd nes byddwch chi’n talu am y clwb sydd wedi’i ddewis, bydd y plentyn yn cael ei gofrestru fel aelod dros dro. Mae hyn yn golygu, er na allwch chi wneud mwy o daliadau i’r clwb ac mae plentyn yn ymddangos i’r ysgol ar y rhestr o gyfranogwyr posibl, nad yw wedi’i gadarnhau ac ni fydd yn ymddangos yn y gofrestr.

Os gwnaethoch chi glicio ar y botwm Canslo, bydd y plentyn yn cael ei gofrestru dros dro, ond ni fydd y taliad yn ymddangos yn eich basged.

 

Yma, gallwch chi weld bod y swm yno i’w dalu yn yr adran clybiau, ond nid yw’n ymddangos yn y fasged. Bydd yr ysgol yn gweld bod y plentyn wedi’i gofrestru dros dro.

 

I ychwanegu’r clwb at y fasged neu dalu, bydd angen i chi fynd yn ôl at yr adran clwb a chlicio ar y taliad sy’n ddyledus. Wedyn, gallwch chi ddewis ychwanegu’r taliad at eich basged a thalu ar unwaith, neu ddewis y cyfnodau aelodaeth a chlicio ar y botwm llwyd i dynnu’n ôl o’r clwb.

 

Negeseuon gwall wrth wneud taliadau am glybiau a thripiau

Efallai y byddwch chi’n derbyn neges gwall pan fydd eitem clwb yn eich basged yn dweud bod y pris am y clwb neu’r trip wedi newid.

Os bydd hyn yn digwydd, tynnwch yr eitem o’ch basged ac wedyn ei hychwanegu’n ôl at eich basged eto.

 

Wedi i chi wneud hyn, byddwch chi’n gallu talu am y clwb yn ôl yr arfer.

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
6 allan o 21 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.