[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i gofrestru plentyn ar gyfer clwb gofal cofleidiol gan ddefnyddio’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni.
Sylwch y bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol wedi i chi gofrestru, os hoffech chi ganslo cyfranogiad neu os hoffech chi gael ad-daliad.
Ar y Porth Rhieni
O brif dudalen y Porth Rhieni, sgroliwch i lawr i’r adran Gweithgareddau a chlicio ar y maes sy’n cynnwys enw’r plentyn a’r Clybiau.
Bydd y dudalen Yr Holl Glybiau yn rhestru unrhyw glybiau y mae’r plentyn yn aelod ohonynt ar hyn o bryd, ac unrhyw glybiau sy’n agored i’r plentyn ymuno â nhw ar hyn o bryd. Cliciwch ar y clwb priodol o’r rhestr Clybiau yn agored i (Enw’r Plentyn) i agor tudalen wybodaeth y clwb hwnnw.
Bydd y dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am glybiau yn arddangos gwybodaeth am aelodaeth ac amserlen. Bydd unrhyw aelodaeth bresennol i’r clwb ar gyfer y disgybl yn cael ei harddangos. I gofrestru eich plentyn ar gyfer y clwb, cliciwch ar Cofrestru Ar Gyfer Y Clwb Hwn yng nghornel uchaf y dudalen ar yr ochr dde.
Yn y ddewislen llithro drosodd, dewiswch y cyfnod aelodaeth i gofrestru ar ei gyfer – gallai hwn fod yn ddiwrnod, yn dymor neu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan, yn dibynnu ar beth mae eich ysgol wedi’i drefnu.
Dewiswch pa gyfnodau aelodaeth i gofrestru ar eu cyfer.
Wedyn, dewiswch pa amseroedd i gofrestru ar gyfer y clwb.
Yn olaf, cadarnhewch y cofrestriad.
Wedyn, eir â chi’n ôl at y dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am y clwb, lle bydd yr aelodaeth(au) newydd yn awr yn cael ei/eu harddangos.
Ar yr Ap Rhieni
Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.
I gofrestru ar gyfer clwb, cliciwch ar eicon y ddewislen ar waelod eich sgrin ar yr ochr chwith. Dewiswch Clybiau.
Wedyn, gallwch weld rhestr o unrhyw glybiau y mae eich plentyn yn eu mynychu, ac unrhyw glybiau sy’n agored i’ch plentyn.
Cliciwch ar glwb i gael mynediad at y Trosolwg o’r Clwb. Cliciwch ar Cofrestru Ar gyfer y Clwb Hwn i gofrestru.
Dewiswch y cyfnod aelodaeth i gofrestru ar ei gyfer – gallai hwn fod yn ddiwrnod, yn dymor neu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan, yn dibynnu ar beth mae eich ysgol wedi’i drefnu.
Dewiswch pa gyfnodau aelodaeth i gofrestru ar eu cyfer.
Wedyn, dewiswch pa amseroedd i gofrestru ar gyfer y clwb.
Yn olaf, cadarnhewch y cofrestriad. Wedyn, bydd y plentyn wedi’i gofrestru.
Cwestiynau Cyffredin
Hoffwn ddewis amser gwahanol i fynychu bob wythnos
Os bydd eich ysgol yn cynnig amseroedd gwahanol y gallwch chi gofrestru ar eu cyfer, gallwch ond nodi un ar gyfer pob diwrnod. I newid yr amser ar gyfer gwahanol wythnosau, cofrestrwch ar gyfer pob sesiwn un ar y tro.
Pam nad yw fy mhlentyn wedi cael ei gofrestru ar gyfer pob un o’r sesiynau a ddewisais?
Yn dibynnu ar y sesiynau sydd ar gael, efallai na fyddwch chi’n cael eich cofrestru ar gyfer pob un o’r sesiynau y byddwch yn eu dewis.
- Os yw ysgol yn rhoi cap ar nifer y myfyrwyr sy’n gallu mynychu sesiwn, a bod y cap hwnnw eisoes wedi’i gyrraedd, ni fydd eich plentyn wedi’i gofrestru.
- Os yw eich ysgol yn penderfynu ar amser terfyn i gofrestru ar gyfer sesiwn, ni fydd eich plentyn yn cael ei gofrestru os byddwch chi’n ceisio bwcio ar ôl yr amser terfyn.
- Os yw eich ysgol yn codi tâl am y clwb ond heb nodi’r pris ar gyfer y sesiwn, ni fyddwch yn gallu trefnu lle i’ch plentyn yn y sesiwn – cysylltwch â’ch ysgol a gofyn iddi ychwanegu pris ar gyfer y sesiwn.
Ar gyfer pob un o’r rhesymau uchod, cysylltwch â’ch ysgol a gofyn iddi a all ychwanegu eich plentyn ar gyfer y sesiwn â llaw.
Ychwanegu arian at eich cyfrif os yw eich balans yn isel
Os bydd eich ysgol yn gofyn i chi ychwanegu at eich cyllid cyn cofrestru, ni fyddwch yn gallu cofrestru a byddwch yn cael neges gwall.
Dyma’r neges ar y Porth Rhieni.
Ar yr Ap, bydd yn edrych fel hyn.
Bydd angen i chi fynd yn ôl at dudalen y clwb a chlicio ar Ychwanegu arian at y cyfrif.
Ar yr Ap Rhieni, gallwch chi ychwanegu’r swm at eich basged.
Ar y Porth Rhieni, gallwch chi ddewis talu neu ychwanegu’r swm at eich basged i dalu yn ddiweddarach.
Cyngor Da: Ddim yn gallu clicio ar y botwm? Dilynwch yr erthygl hon: Alla’ i ddim clicio ar y botwm i dalu?
Pan fyddwch chi’n talu, efallai y bydd rhaid i chi wedyn ddilysu pwy ydych chi er mwyn i’r taliad fynd trwodd. Mae hyn yn ofyniad o’r Rheoliadau Dilysiad Cryf Cwsmer (SCA) a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Os oes angen dilysiad ar gyfer y taliad, byddwch yn cael eich annog i ddilysu’r taliad gan ddefnyddio dull dilysu y mae eich banc yn ei gefnogi. Gallai hwn fod:
- yn god SMS,
- yn ap bancio ar eich ffôn symudol
- yn ddull arall
Wedi i ni allu cadarnhau pwy ydych chi, bydd y taliad yn cael ei gwblhau a chodir tâl ar eich cerdyn. Byddwch yn gweld cadarnhad y bu’r trafodiad yn llwyddiannus.
[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.