[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Gallwch chi reoli cyfrifon ar gyfer unrhyw ardal o Arbor y mae eich ysgol wedi ei chreu i dderbyn taliadau ar eu cyfer. Yma, gallwch chi wneud taliadau ac ychwanegu arian at gyfrifon, hefyd. I gael mwy o wybodaeth am wneud taliadau, gweler ein herthyglau ynghylch cofrestru ar gyfer clwb ac ynghylch cofrestru ar gyfer trip.
Sylwch, wedi i chi ychwanegu arian at gyfrif, bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol os hoffech chi symud arian i gyfrif gwahanol neu os hoffech chi gael ad-daliad.
I weld yr holl falansau sydd heb eu talu ar draws holl gyfrifon eich plant, cliciwch ar y balans ar eich hafan. Cyngor Da: Bydd hyn yn dangos fel £0 os yw’r balansau i gyd yn 0 neu i gyd yn gadarnhaol.
Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.
Ar y dudalen hon, gallwch chi weld:
- Unrhyw dripiau sydd â swm heb ei dalu (e.e. os yw rhandaliadau wedi cael eu creu ar gyfer y trip a dim ond 1 o’r 3 rhandaliad sydd wedi cael ei dalu, felly mae swm i’w dalu o hyd ar gyfer y trip hwnnw).
- Unrhyw glybiau sydd â swm heb ei dalu (os yw sesiynau clybiau wedi cael eu bwcio ond heb dalu amdanynt eto).
- Unrhyw gyfrifon ychwanegu arian neu ragdalu (er enghraifft Prydau Bwyd neu Ofal Cofleidiol) sydd â balans negyddol.
- Unrhyw gyfrifon ychwanegu arian neu ragdalu (er enghraifft Prydau Bwyd neu Ofal Cofleidiol) sydd â balans cadarnhaol.
I weld cyfrifon ar gyfer un o’ch plant, gallwch chi naill ai:
- Ddewis yr eicon Dewislen ac wedyn clicio ar y botwm Taliadau.
- Defnyddio’r ddewislen.
- Clicio ar gyfrif penodol o dudalen y myfyriwr.
Cliciwch ar gyfrif i weld mwy o wybodaeth, neu ychwanegu arian ato.
Cliciwch ar y botwm gwyrdd i ychwanegu arian at y cyfrif trwy fewnosod manylion eich cerdyn.
Mewnbynnwch y swm i ychwanegu arian, wedyn clicio i dalu.
Cyngor Da: Ddim yn gallu clicio ar y botwm? Dilynwch yr erthygl hon: Alla’ i ddim clicio ar y botwm i dalu?
Nesaf, byddwch chi’n gallu mewnbynnu manylion eich cerdyn. Sylwch fod yn rhaid i chi ddefnyddio cerdyn Visa neu Mastercard.
Efallai y bydd rhaid i chi wedyn ddilysu pwy ydych chi er mwyn i’r taliad fynd trwodd. Mae hyn yn ofyniad y Rheoliadau Dilysiad Cryf Cwsmer (SCA) a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Os oes angen dilysiad ar gyfer y taliad, byddwch yn cael eich annog i ddilysu’r taliad gan ddefnyddio dull dilysu y mae eich banc yn ei gefnogi. Gallai hwn fod:
- yn god SMS
- yn ap bancio ar eich ffôn symudol
- yn ddull arall
Wedi i ni allu cadarnhau pwy ydych chi, bydd y taliad yn cael ei gwblhau a chodir tâl ar eich cerdyn. Byddwch yn gweld cadarnhad y bu’r trafodiad yn llwyddiannus.
O’r ddewislen, gallwch chi weld mwy o wybodaeth am daliadau. Mae pob un o’r tudalennau hyn yn newid yn ôl fel mater o drefn i’r tymor presennol, ond gallwch chi edrych ar dymhorau blaenorol gan ddefnyddio’r gwymplen.
Mae’r adran Anfonebau yn dangos manylion am yr anfonebau a statws pob anfoneb ar gyfer y tymor presennol – p’un a ydynt wedi cael eu Canslo neu’u Talu.
Mae’r dudalen Ychwanegu Arian yn dangos y math o ychwanegiad a wnaed. Gall hyn amrywio o Gerdyn (a wnaed gennych chi neu Brif Warcheidwad arall) i Arian Parod neu Siec (wedi’i gofnodi gan yr ysgol).
Mae’r dudalen Nodau Credyd yn dangos yr holl nodau credyd.
[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.