Cofrestru fy mhlentyn ar gyfer Clwb ar y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i gofrestru plentyn ar gyfer clwb gan ddefnyddio’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni.

Os na allwch chi gofrestru, cysylltwch â’ch ysgol. Bydd angen i’r ysgol ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.

Sylwch y bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol wedi i chi gofrestru, os hoffech chi ganslo cyfranogiad neu os hoffech chi gael ad-daliad.


Ar y Porth Rhieni 

O brif dudalen y Porth Rhieni, sgroliwch i lawr i’r adran Gweithgareddau a chlicio ar y maes sy’n cynnwys enw’r plentyn a’r Clybiau.

 

Bydd y dudalen Yr Holl Glybiau yn rhestru unrhyw glybiau y mae’r plentyn yn aelod ohonynt ar hyn o bryd, ac unrhyw glybiau sy’n agored i’r plentyn ymuno â nhw ar hyn o bryd. Ar waelod y dudalen, byddwch chi hefyd yn gweld unrhyw glybiau blaenorol o’r blynyddoedd diwethaf yr oedd eich plentyn wedi ei gofrestru ar eu cyfer, rhag ofn bod angen i chi orffen talu amdanynt.

Cliciwch ar y clwb i agor tudalen wybodaeth y clwb hwnnw.

 

Clybiau Am Ddim ar y Porth Rhieni

Bydd y dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am glybiau yn arddangos gwybodaeth am aelodaeth ac amserlenni. Bydd unrhyw aelodaeth bresennol yn y clwb ar gyfer y disgybl yn cael ei harddangos. I gofrestru eich plentyn ar gyfer y clwb, cliciwch ar Cofrestru Ar gyfer y Clwb Hwn yn y gornel dde ar dop y dudalen.

 

O’r ddewislen llithro drosodd a fydd yn ymddangos, dewiswch y cyfnod aelodaeth yr hoffech chi gofrestru’r plentyn ar ei gyfer - gallai hwn fod yn amrediad dyddiadau penodol, yn dymor neu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.

 

Yn olaf, dewiswch pa sesiynau i gofrestru eich plentyn ar eu cyfer, a chadarnhau’r cofrestriad.

 

Os bydd yr ysgol yn gofyn bod rhaid i rieni gadarnhau eu cydsyniad i’r plentyn fynychu’r clwb, bydd blwch yn ymddangos i gadarnhau cydsyniad. Cliciwch ar ie neu na, fel y bo’n briodol.

 

Wedyn, eir â chi’n ôl at y dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am y clwb, lle bydd yr aelodaeth(au) newydd yn awr yn cael ei/eu harddangos.

 

Clybiau y talwyd amdanynt ar y Porth Rhieni

Mae’r broses i gofrestru ar gyfer clybiau sy’n codi tâl aelodaeth yn debyg iawn i’r broses ar gyfer clybiau sy’n rhad ac am ddim. Bydd y dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am glybiau yn arddangos gwybodaeth am aelodaeth ac amserlen. Bydd unrhyw aelodaeth bresennol yn y clwb ar gyfer y disgybl yn cael ei harddangos.

I gofrestru eich plentyn ar gyfer y clwb, cliciwch ar Cofrestru Ar Gyfer Y Clwb Hwn yng nghornel uchaf y dudalen ar yr ochr dde.

 

O’r ddewislen llithro drosodd a fydd yn ymddangos, dewiswch y cyfnod aelodaeth yr hoffech chi gofrestru’r plentyn ar ei gyfer - gallai hwn fod yn amrediad dyddiadau penodol, yn dymor neu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.

 

Nesaf, dewiswch pa sesiynau i gofrestru’ch plentyn ar eu cyfer.

 

Yn olaf, cadarnhewch eich dewisiadau a chlicio i dalu. Gallwch chi hefyd ddewis ychwanegu’r taliad at eich basged i dalu yn ddiweddarach – gweler sut mae’r fasged yn gweithio yma.

Cyngor Da: Ddim yn gallu clicio ar y botwm? Dilynwch yr erthygl hon: Alla’ i ddim clicio ar y botwm i dalu? 

Os byddwch chi’n clicio ar Canslo yma, bydd y plentyn wedi’i gofrestru dros dro, ond bydd angen i chi dalu i’w gofrestru ar gyfer y clwb.

 

Efallai y bydd rhaid i chi wedyn ddilysu pwy ydych chi er mwyn i’r taliad fynd trwodd. Mae hyn yn ofyniad o’r Rheoliadau Dilysiad Cryf Cwsmer (SCA) a gyflwynwyd yn ddiweddar. 

Os oes angen dilysiad ar gyfer y taliad, byddwch yn cael eich annog i ddilysu’r taliad gan ddefnyddio dull dilysu y mae eich banc yn ei gefnogi. Gallai hwn fod:

  • yn god SMS,
  • yn ap bancio ar eich ffôn symudol  
  • yn ddull arall

Wedi i ni allu cadarnhau pwy ydych chi, bydd y taliad yn cael ei gwblhau a chodir tâl ar eich cerdyn. Byddwch yn gweld cadarnhad y bu’r trafodiad yn llwyddiannus.

 

Os bydd yr ysgol yn gofyn bod rhaid i rieni gadarnhau eu cydsyniad i’r plentyn fynychu’r clwb, bydd blwch yn ymddangos i gadarnhau cydsyniad. Cliciwch ar ie neu na, fel y bo’n briodol.

Wedyn, eir â chi’n ôl at y dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am y clwb, lle bydd yr aelodaeth(au) newydd yn awr yn cael ei/eu harddangos.

 


Ar yr Ap Rhieni

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

I gofrestru ar gyfer clwb, cliciwch ar eicon y ddewislen ar waelod eich sgrin ar yr ochr chwith. Dewiswch Clybiau.

 

Wedyn, gallwch weld rhestr o unrhyw glybiau y mae’r plentyn yn aelod ohonynt ar hyn o bryd, ac unrhyw glybiau sy’n agored i’ch plentyn ymuno â nhw. Ar waelod y dudalen, byddwch chi hefyd yn gweld unrhyw glybiau blaenorol o’r blynyddoedd diwethaf yr oedd eich plentyn wedi ei gofrestru ar eu cyfer, rhag ofn bod angen i chi orffen talu amdanynt.

Cliciwch ar y clwb i agor tudalen wybodaeth y clwb hwnnw.

 

Cliciwch ar glwb i gael mynediad at y Trosolwg o’r Clwb. Cliciwch ar Cofrestru Ar gyfer y Clwb Hwn i gofrestru.

 

Nesaf, dewiswch y cyfnod yr hoffech gofrestru ar ei gyfer. Mae hyn yn ddibynnol ar beth mae eich ysgol wedi’i drefnu, a gallai gynnwys pecyn tymhorol, wythnosol neu ddyddiol. Wedyn, cliciwch ar Nesaf.

 

Dewiswch y cyfnod yr hoffech gofrestru ar ei gyfer, wedyn clicio ar Nesaf.

 

Ar y dudalen nesaf, os nad oes angen taliad, gallwch chi gofrestru.

 

Os nad oes angen taliad ond eich bod yn cael rhoi cyfraniad, gallwch ddewis yr opsiwn hwn.

 

Os yw’n glwb y mae’n rhaid i chi dalu amdano, gallwch chi fewnbynnu manylion eich cerdyn i dalu am y clwb.

Cyngor Da: Ddim yn gallu clicio ar y botwm? Dilynwch yr erthygl hon: Alla’ i ddim clicio ar y botwm i dalu? 

 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
18 allan o 105 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.