Pam na alla’ i dalu am y clwb, y trip, y pryd bwyd hwn, neu’r eitem hon?

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Os nad ydych chi’n gallu talu am glwb, trip neu bryd bwyd gan ddefnyddio’r Porth Rhieni neu Ap Arbor, gallai hyn fod oherwydd nifer o bethau:

  • Nid yw eich ysgol wedi galluogi taliadau ar ei safle eto – ni fyddwch yn gallu talu am unrhyw beth.
  • Nid yw eich ysgol wedi creu’r clwb neu’r trip eto - bydd angen i chi aros hyd nes bydd yn gwneud hynny.
  • Nid yw’r cyfnod cofrestru wedi agor eto – bydd angen i chi aros iddo agor i allu talu.
  • Mae’r cyfnod cofrestru eisoes wedi cau – oni bai eich bod wedi cofrestru cyn i’r cyfnod cofrestru gau, ni fyddwch yn gallu gwneud taliadau. Bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol i dalu ag arian parod neu siec.
  • Mae eich cerdyn wedi cael ei wrthod – rydym ond yn derbyn Visa neu Mastercard, felly bydd angen i chi ddefnyddio un o’r mathau hyn o gardiau i wneud taliadau cerdyn.
  • Mae pob un o’r eitemau wedi eu gwerthu – cysylltwch â’ch ysgol.
  • Rydych chi wedi rhwystro ein darparwr talu: Pam na alla’ i glicio ar y botwm i dalu?

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
13 allan o 76 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.