Prynu eitemau Siop Ysgol ar y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Mae’r erthygl hon yn esbonio sut i brynu eitemau o’r Siop Ysgol gan ddefnyddio’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni, yn cynnwys camau ar gyfer gweld eitemau a brynwyd neu drin ad-daliadau. Mae hefyd yn rhoi cynghorion ar gyfer datrys problemau talu ac yn amlinellu dulliau talu a dderbyniwyd.

Gallwch chi brynu eitemau Siop Ysgol gan ddefnyddio’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni wedi i’ch ysgol drefnu bod yr eitemau ar gael.

Os na allwch chi brynu eitem, cysylltwch â’ch ysgol. Bydd angen iddi ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.

Sylwer:

  • wedi i chi brynu eitem, bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol os hoffech chi gael ad-daliad.
  • ni fyddwch yn derbyn neges e-bost na chadarnhad o’r eitem a brynwyd, ond gallwch chi weld pa eitemau rydych wedi cael eich anfonebu amdanynt.

Ar y Porth Rhieni 

Gallwch chi naill ai:

  • O brif dudalen y Porth Rhieni, sgrolio i lawr at yr adran Siop Ysgol.
  • Clicio ar y Siop Ysgol yn eich Camau Cyflym.
  • Clicio ar enw’r plentyn a dewis Siop Ysgol o’r ddewislen ar yr ochr chwith.

 

Bydd y dudalen Siop Ysgol yn rhestru unrhyw eitemau y gellir eu prynu ar gyfer y plentyn. Cliciwch ar eitem.

 

Cofnodwch nifer yr eitemau yr ydych yn dymuno’u prynu, wedyn clicio ar Prynu’r cynnyrch.

 

Os ydych chi’n ceisio prynu mwy nag uchafswm nifer yr eitemau sydd ar gael fesul myfyriwr, cysylltwch â’ch ysgol i ychwanegu hyn â llaw i chi.

 

Os yw’r eitem yn rhad ac am ddim ar gyfer eich plentyn, cliciwch ar Archebu. Gallwch ychwanegu nodyn ar gyfer eich ysgol, os oes angen.

 

Os oes angen i chi dalu am yr eitem, cliciwch ar Talu nawr, neu dewiswch i ychwanegu’r taliad at eich basged i dalu yn ddiweddarach – edrychwch sut mae’r fasged yn gweithio yma. Gallwch ychwanegu nodyn ar gyfer eich ysgol, os oes angen.

Cyngor Da: Methu clicio ar y botwm? Dilynwch yr erthygl hon: Alla’ i ddim clicio ar y botwm i dalu?

 

Ychwanegwch fanylion y cerdyn – mae Arbor yn derbyn Visa neu Mastercard yn unig. Gellir gofyn i chi ddilysu, hefyd.

 

Os yw pob eitem wedi cael ei gwerthu ers hynny, byddwch yn cael gwybod hyn ac ni fyddwch yn gallu talu.

I weld yr eitemau rydych chi wedi eu prynu, ewch yn ôl at eich hafan, wedyn dewis y myfyriwr.

Ewch i Camau Cyflym > Taliadau > Anfonebau o’r ddewislen ar yr ochr chwith, lle gallwch chi weld yr eitemau a brynwyd.

Bydd naill ai’n dangos 'Statws: Wedi Talu' mewn testun gwyrdd, neu 'Statws: Wedi Anfon' neu 'Statws: Wedi’i Ganslo' mewn testun du.


Ar yr Ap Rhieni

Placeholder notification that the App is not ready

Ewch i’ch prif ddewislen a dewis Siop Ysgol.

 

Bydd y dudalen Siop Ysgol yn rhestru unrhyw eitemau y gellir eu prynu ar gyfer y plentyn. Cliciwch ar eitem.

 

Cofnodwch nifer yr eitemau yr ydych yn dymuno’u prynu, wedyn clicio ar Prynu’r cynnyrch.

Sylwer y bydd y gwymplen ond yn gadael i chi ddewis uchafswm o 9 eitem. I brynu mwy, proseswch y trafodiad eto.

 

  • Os yw’r eitem yn rhad ac am ddim i’ch plentyn, cliciwch ar Archebu.
  • Os oes angen i chi dalu am yr eitem, cliciwch ar Talu nawr.

Gallwch ychwanegu nodyn ar gyfer eich ysgol, os oes angen.

Cyngor Da: Ddim yn gallu clicio ar y botwm? Dilynwch yr erthygl hon: Alla’ i ddim clicio ar y botwm i dalu?

 

Ychwanegwch fanylion y cerdyn – mae Arbor yn derbyn Visa neu Mastercard yn unig. Gellir gofyn i chi ddilysu, hefyd.

 

Os yw pob eitem wedi cael ei gwerthu ers hynny, byddwch yn cael gwybod hyn ac ni fyddwch yn gallu talu.

 

I weld yr eitemau rydych chi wedi eu prynu, cliciwch ar eitem y ddewislen yn y gwaelod ar yr ochr chwith, sgroliwch i lawr i Siop Ysgol a dewis Anfonebau.

 

Yma, gallwch chi weld yr eitemau a brynwyd. Bydd naill ai’n dangos 'Statws: Wedi Talu', neu 'Statws: Wedi Anfon' neu 'Statws: Wedi’i Ganslo' mewn testun du.

 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
23 allan o 85 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.