[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Gallwch chi reoli cyfrifon ar gyfer unrhyw ardal o Arbor y mae eich ysgol wedi ei chreu i dderbyn taliadau ar eu cyfer. Yma, gallwch chi wneud taliadau ac ychwanegu arian at gyfrifon, hefyd. I gael mwy o wybodaeth am wneud taliadau, gweler ein herthyglau ynghylch cofrestru ar gyfer clwb ac ynghylch cofrestru ar gyfer trip.
Sylwch, wedi i chi ychwanegu arian at gyfrif, bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol os hoffech chi symud arian i gyfrif gwahanol neu os hoffech chi gael ad-daliad.
I weld yr holl falansau sydd heb eu talu ar draws holl gyfrifon eich plant, cliciwch ar y balans ar eich hafan. Cyngor Da: Bydd hyn yn dangos fel £0 os yw’r balansau i gyd yn 0 neu i gyd yn gadarnhaol.
Bydd hyn yn dangos fel £0 os yw’r balansau i gyd yn 0 neu i gyd yn gadarnhaol.
Ar y dudalen hon, gallwch chi weld:
- Unrhyw dripiau sydd â swm heb ei dalu (e.e. os yw rhandaliadau wedi cael eu creu ar gyfer y trip a dim ond 1 o’r 3 rhandaliad sydd wedi cael ei dalu, felly mae swm i’w dalu o hyd ar gyfer y trip hwnnw).
- Unrhyw glybiau sydd â swm heb ei dalu (os yw sesiynau clybiau wedi cael eu bwcio ond heb dalu amdanynt eto).
- Unrhyw gyfrifon ychwanegu arian neu ragdalu (er enghraifft Prydau Bwyd neu Ofal Cofleidiol) sydd â balans negyddol.
- Unrhyw gyfrifon ychwanegu arian neu ragdalu (er enghraifft Prydau Bwyd neu Ofal Cofleidiol) sydd â balans cadarnhaol.
I weld cyfrifon ar gyfer un o’ch plant, gallwch chi naill ai:
- Ddewis Taliadau o’ch Camau Cyflym.
- Dewis y plentyn o’r gwymplen yn y top ar yr ochr chwith, a dewis y cyfrif o’ch hafan.
- Clicio ar enw’r plentyn i fynd at ei broffil, a dewis Taliadau > Taliadau Gweithredol o’r ddewislen ar yr ochr chwith. Wedyn, gallwch chi ddewis y cyfrif.
Wrth edrych ar y cyfrif prydau bwyd, bydd clicio ar bryd bwyd yn llwytho dewislen llithro drosodd gyda manylion am y ciniawau a gymerwyd y diwrnod hwnnw.
Gallwch chi ddewis Tymor penodol gan ddefnyddio’r gwymplen Tymhorau ar dop y dudalen ar yr ochr dde.
I wneud Taliad Cerdyn, cliciwch ar y botwm Ychwanegu arian at y cyfrif.
Bydd dewislen llithro drosodd yn llwytho, lle gallwch chi ddewis y talwr biliau a swm y taliad. Sylwch mai isafswm y taliad yw £2.
Gallwch chi ddewis talu nawr neu ychwanegu eich taliad at eich basged i dalu yn ddiweddarach.
Cyngor Da: Ddim yn gallu clicio ar y botwm? Dilynwch yr erthygl hon: Alla’ i ddim clicio ar y botwm i dalu?
Yn y naidlen, ychwanegwch fanylion eich cerdyn wedyn clicio ar Talu.
Efallai y bydd rhaid i chi wedyn ddilysu pwy ydych chi er mwyn i’r taliad fynd trwodd. Mae hyn yn ofyniad o’r Rheoliadau Dilysiad Cryf Cwsmer (SCA) a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Os oes angen dilysiad ar gyfer y taliad, byddwch yn cael eich annog i ddilysu’r taliad gan ddefnyddio dull dilysu y mae eich banc yn ei gefnogi. Gallai hwn fod:
- yn god SMS
- yn ap bancio ar eich ffôn symudol
- yn ddull arall
Wedi i ni allu cadarnhau pwy ydych chi, bydd y taliad yn cael ei gwblhau a chodir tâl ar eich cerdyn. Byddwch yn gweld cadarnhad y bu’r trafodiad yn llwyddiannus.
Bydd y balans prydau bwyd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r arian a ychwanegwyd ar unwaith.
Bydd yr adran Anfonebau ar y Porth Rhieni yn llwytho tabl gyda’r holl anfonebau ar gyfer y tymor presennol.
Gallwch chi ddewis Tymor penodol gan ddefnyddio’r gwymplen Tymhorau ar dop y dudalen ar yr ochr dde.
Byddwch chi’n gallu gweld manylion am yr anfonebau a statws pob anfoneb – p’un a ydynt wedi cael eu Canslo neu’u Talu.
Bydd y dudalen Ychwanegu arian ar y Porth Rhieni yn llwytho’r arian a ychwanegwyd ar gyfer y myfyriwr penodol hwnnw yn ystod y tymor presennol.
Gallwch chi ddewis Tymor penodol gan ddefnyddio’r gwymplen Tymhorau ar dop y dudalen ar yr ochr dde.
Bydd y dudalen yn dangos y math o ychwanegiad a wnaed. Gall hyn amrywio o Gerdyn (gwnaed gennych chi neu Brif Warcheidwad arall) i Arian Parod neu Siec (wedi’i gofnodi gan yr ysgol).
Bydd y dudalen Nodau Credyd ar y Porth Rhieni yn llwytho tabl gyda’r holl nodau credyd ar gyfer y tymor presennol.
Gallwch chi ddewis Tymor penodol gan ddefnyddio’r gwymplen Tymhorau ar dop y dudalen ar yr ochr dde. Bydd tabl yn ymddangos sy’n dangos manylion am y nodau credyd.
[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.