Cwestiynau Cyffredin ar y Porth Rhieni am Brydau Bwyd, Clybiau, Tripiau a Thaliadau

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Mae’r erthygl hon yn ymdrin â chwestiynau cyffredin ynglŷn â defnyddio Clybiau, Tripiau, Prydau Bwyd a Thaliadau yn y Porth Rhieni. Os na allwch chi ddod o hyd i ateb i’ch ymholiad yn yr erthygl hon, gwiriwch adran ddynodedig y Ganolfan Gymorth ar y testun hwn yma.


Pam na alla’ i glicio ar y botwm i dalu?

Os na allwch chi glicio ar y botwm Talu nawr (os nad yw’r botwm ar gael) wrth wneud taliad neu ychwanegu arian, bydd angen i chi wirio gosodiadau eich wal dân.

Mae hyn yn digwydd pan fydd URL partner talu Arbor (https://js.stripe.com) wedi’i rwystro ar eich rhwydwaith, felly rhowch Arbor ar restr o gwmnïau sy’n cael eu cymeradwyo.


A alla’ i dalu gan ddefnyddio talebau gofal plant?

Gall rhieni dalu am wasanaethau ysgol trwy arian parod, siec, trosglwyddiad banc, neu gerdyn trwy’r Porth / Ap Rhieni. Gellir ond defnyddio talebau gofal plant ar gyfer Clybiau Gofal Plant Cofleidiol os yw’r ysgol yn caniatáu hyn ac wedi ychwanegu arian at gyfrif y plentyn. I gofrestru ar gyfer clybiau, mae’r broses yn aros yr un fath, ni waeth beth yw’r dull talu.

Gallwch chi dalu’r ysgol trwy arian parod, siec neu drosglwyddiad banc a gall ychwanegu arian at gyfrif eich plentyn neu dalu am glybiau a thripiau.

Fel arall, gallwch chi dalu â cherdyn ar y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni.

Ni allwch dalu am glybiau, tripiau nac eitemau Siop Ysgol safonol gan ddefnyddio talebau.

Os oes gennych chi daleb (fel Talebau Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, cyfeirir atynt weithiau fel Talebau Cynilo Cenedlaethol), gallwch chi ddefnyddio hyn i dalu am Glybiau Gofal Plant Cofleidiol (clybiau brecwast neu glybiau ar ôl ysgol) dim ond os yw eich ysgol:

  • wedi eich galluogi i dalu gan ddefnyddio taleb
  • wedi ychwanegu at gyfrif eich plentyn gyda balans y daleb

Os ydych chi’n credu y dylid ychwanegu arian at gyfrif eich plentyn gan ddefnyddio taleb, cysylltwch â’ch ysgol.

Mae’r broses ar gyfer cofrestru eich plentyn ar gyfer sesiynau Gofal Cofleidiol yr un fath p’un a ydych chi’n defnyddio balans y daleb neu beidio. Gallwch chi weld sut i gofrestru eich plentyn trwy’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni yma: Cofrestru fy mhlentyn ar gyfer Clwb Brecwast neu Glwb Ar Ôl Ysgol.


A alla’i ddewis pa bryd bwyd y bydd fy mhlentyn yn ei gael?

Os oes gan eich ysgol y nodwedd Bwydlenni Prydau Bwyd, gall gwarcheidwaid a rhieni ddewis pa brydau bwyd y bydd eu plant yn eu cael bob dydd trwy’r Porth Rhieni neu Ap Arbor.

Os ydych chi’n ansicr ynghylch a oes gan eich ysgol y gosodiad nodwedd hwn, cysylltwch â’ch ysgol. Peidiwch â chysylltu ag Arbor.

  • Os yw’r ysgol wedi cadarnhau bod ganddi’r nodwedd hon, gweler y cyfarwyddiadau hyn: Dewisiadau Prydau Bwyd ar y Porth Rhieni neu Ap Arbor
  • Os nad oes gan eich ysgol y nodwedd hon, bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol i newid opsiwn pryd bwyd eich plentyn ar eich rhan.

A alla’ i gadw manylion fy ngherdyn banc? 

Rydym yn dilyn gofynion diogelwch llym i wneud yn siŵr bod taliadau wedi cael eu gwneud a’u gwirio gennych chi. Gallwch chi newid y manylion os yw eich manylion banc bellach yn wahanol.

Wrth ddefnyddio’r Ap Rhieni, mae gennych chi’r opsiwn i dalu trwy Apple Pay neu Google Pay yn dibynnu ar osodiadau eich ysgol.

Wrth ddefnyddio’r Porth Rhieni, ni allwn gadw eich manylion banc yn Arbor. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi fewnbynnu manylion eich cerdyn bob tro rydych chi eisiau gwneud taliad os ydych chi’n defnyddio’r rheolwr cyfrineiriau gosodedig ar eich dyfais neu’ch porwr.

Er enghraifft, yn Google Chrome, ewch i Settings > Auto-fill > Payment methods.

Ychwanegwch ddull talu, ac wedyn, byddwch yn gallu dewis hwn wrth wneud taliadau yn Arbor ar eich porwr.


Talais arian i mewn i’r cyfrif anghywir, sut ydw i’n symud yr arian?

Os ydych chi wedi symud arian yn ddamweiniol i mewn i’r cyfrif anghywir, er enghraifft:

  • i mewn i gyfrif gwahanol ond roeddech chi wedi bwriadu talu’r arian i mewn i’r cyfrif prydau bwyd
  • i mewn i gyfrif y plentyn anghywir (e.e. rydych chi wedi talu’r arian i mewn i gyfrif brawd neu chwaer y plentyn yn lle)

Bydd angen i chi ofyn am ad-daliad trwy gysylltu â’ch ysgol. Gan mai ysgol eich plentyn sy’n rheoli eich cyfrif, ni allwn gael mynediad at eich proffil heb siarad â’r ysgol yn gyntaf. Bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol i roi ad-daliad i chi.

Wedi i’r ad-daliad gael ei roi, gallwch chi wedyn wneud taliad arall i mewn i’r cyfrif cywir.


A fydda’ i’n cael derbynneb neu anfoneb pan fydda’ i’n gwneud taliad trwy Arbor?

Byddwch chi’n derbyn cadarnhad am daliad trwy neges e-bost ar gyfer unrhyw daliadau yr ydych yn eu gwneud i ychwanegu arian at gyfrif, er enghraifft Prydau Bwyd neu Ofal Cofleidiol.

Ni fyddwch yn derbyn neges e-bost yn cadarnhau taliadau a wnaed tuag at Glybiau a Thripiau. Fodd bynnag, byddwch yn derbyn neges ar y sgrin yn cadarnhau bod y taliad wedi cael ei wneud yn llwyddiannus.

Gall gwarcheidwaid glicio mewn balans cyfrif, clwb neu drip i weld beth rydych chi eisoes wedi’i dalu ac unrhyw symiau sy’n weddill i’w talu.


Pam mae angen i mi gofnodi cyfeiriad e-bost wrth wneud taliadau cerdyn?

Mae ein prosesydd taliadau, Stripe, yn gofyn am gyfeiriad e-bost deiliad cerdyn i atal twyll a gwirio pwy yw deiliad y cerdyn.

Nid yw Arbor yn gweld nac yn storio manylion cerdyn na’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd, sydd wedi’u hamgryptio ac yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i  Stripe.

Mae Stripe yn defnyddio’r wybodaeth hon i asesu risg trafodiad a gallai ofyn am fwy o awdurdodiad neu wrthod y trafodiad. Mae manylion anghywir neu fanylion wedi’u hepgor yn cynyddu’r tebygolrwydd o sbarduno gwiriadau twyll.

Wrth wneud trafodiad, mae modd golygu cyfeiriad e-bost deiliad y cerdyn i ddarparu ar gyfer sefyllfaoedd lle mae’r deiliad cerdyn yn wahanol i ddeiliad cyfrif Arbor. Mae hyn oherwydd bod angen manylion deiliad y cerdyn, yn benodol, ar gyfer gwirio.

Sylwer: caiff cadarnhad o drafodiad ei anfon i gyfeiriad e-bost deiliad cyfrif Arbor gan nad ydym ni’n gallu mynd at gyfeiriad e-bost deiliad y cerdyn. 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
9 allan o 130 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.