Sut mae taliadau Arlwyo Heb Arian Parod yn dangos ar y Porth Rhieni?

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Wedi i’ch ysgol drefnu’r integreiddio gyda Civica neu Live Register, wrth fewngofnodi i’r Porth Rhieni, gallwch chi weld balans y cyfrif Arlwyo Heb Arian Parod ar y prif ddangosfwrdd.

Bydd clicio ar y cyfrif hwn yn mynd â chi at y sgrin Crynodeb o daliadau ar gyfer y cyfrif, a fydd yn edrych yr un fath fel pe na bai eich ysgol yn defnyddio Arlwyo Heb Arian Parod: Cyfrifon talu ac ychwanegu at y cyfrif prydau bwyd ar y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni


Anfonebau 

Bydd y dudalen Anfonebau yn dangos yr holl anfonebau sydd wedi cael eu creu ar gyfer y cyfrif, gyda chyfanswm yr anfonebau a’r eitemau a brynwyd.


Ychwanegiadau

Mae’r dudalen Ychwanegiadau yn cynnwys taliadau cerdyn sy’n cael eu gwneud gan rieni trwy’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni, gan yr ysgol trwy Arbor, a thrwy’r System Arlwyo Heb Arian Parod (er enghraifft, trwy beiriannau ychwanegu ar y safle).


Nodau Credyd

Bydd y dudalen Nodau Credyd yn dangos unrhyw addasiadau credyd a wnaed i’r cyfrif, naill ai trwy Arbor neu drwy’r System Arlwyo Heb Arian Parod.

  • Os yw nodyn credyd wedi cael ei gysylltu ag eitem anfoneb flaenorol, mae’r eitem wedi’i rhestru.
  • Ar gyfer nodau credyd cyffredinol, mae’r maes Eitemau yn wag.

 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
1 allan o 13 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.