Cofnodi absenoldebau ar y Porth Rhieni ac Ap Arbor

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Gall rhieni gofnodi absenoldeb yr un diwrnod nawr gan ddefnyddio’r Porth Rhieni ac Ap Arbor. I wneud hyn, rhaid iddynt fynd at yr adran Presenoldeb, mewnbynnu’r manylion am yr absenoldeb, a chyflwyno’r cais. Wedyn, bydd angen i staff yr ysgol gymeradwyo neu wrthod yr absenoldeb. Ar ôl ei gymeradwyo, bydd yn weladwy yn y tab Presenoldeb. Ni ellir golygu ceisiadau absenoldeb, dim ond dileu ac ail-greu os bydd angen newidiadau, ac ni ellir dileu absenoldebau wedi iddynt gael eu cymeradwyo.

Mae hi bellach yn bosibl cofnodi absenoldebau ar y Porth Rhieni ac Ap Arbor. Gallwch ond cofnodi absenoldebau’r un diwrnod, felly ar gyfer unrhyw absenoldebau estynedig neu absenoldebau yn y dyfodol, cysylltwch ag ysgol eich plentyn. Ar gyfer staff ysgol sy’n bwriadu defnyddio’r nodwedd hon, gweler yr erthygl hon.

Cofnodi absenoldeb

I gofnodi absenoldeb, cliciwch ar y botwm Camau Cyflym ac wedyn clicio ar Presenoldeb.

Oddi yma, cliciwch ar y botwm gwyrdd Cofnodi Absenoldeb ar dop y dudalen ar yr ochr dde.

Yma, gallwch chi fewnbynnu’r amser dechrau a gorffen ar gyfer yr absenoldeb a’r math o absenoldeb yn y rheswm dros yr absenoldeb. Fel mater o drefn, mae amseroedd dechrau a gorffen yr absenoldeb yn adlewyrchu diwrnod llawn y myfyriwr, ond gellid addasu’r rhain yn ôl yr angen. Wedi i chi lenwi’r data hwn, cliciwch ar Cofnodi Absenoldeb. Wedyn, bydd hyn yn weladwy i staff yr ysgol.

Ar ôl cofnodi hyn, gall staff yr ysgol dderbyn neu wrthod yr absenoldeb. Mae absenoldebau wedi eu cymeradwyo yn ymddangos yn nhab Presenoldeb y Porth Rhieni neu Ap Arbor.

Golygu neu ddileu ceisiadau absenoldeb 

Nid yw’n bosibl golygu cais am absenoldeb sy’n bodoli eisoes, felly os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau, dylech ddileu’r cais am absenoldeb a chreu un newydd. I ddileu’r absenoldeb, cliciwch arno ac wedyn clicio ar Canslo’r Newid Cais.

Sylwer: Nid yw’n bosibl dileu absenoldeb wedi iddo gael ei gymeradwyo gan eich ysgol. Os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau ar ôl i hyn ddigwydd, cysylltwch â’ch ysgol.

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
53 allan o 115 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.