Negeseuon mewn ap yn y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Os ydych chi wedi galluogi Hysbysiadau Gwthio ar gyfer yr Ap, byddwch chi’n cael hysbysiad gwthio pryd bynnag y bydd gennych chi neges newydd yn yr ap, p’un a ydych wedi mewngofnodi i Arbor ai peidio. Os nad ydych chi’n derbyn hysbysiadau gwthio, neu os byddant yn diflannu’n gyflym, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.

Ni fydd cynnwys y neges yn yr hysbysiad gwthio; bydd yn rhoi gwybod i chi bod neges newydd y bydd angen i chi fewngofnodi i Arbor i’w darllen.


Sut galla’ i ddarllen fy negeseuon mewn ap?

Gallwch chi weld unrhyw negeseuon mewn ap a anfonwyd atoch gan eich ysgol yn adran negeseuon y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni.

Trwy’r Porth Rhieni

Gallwch chi weld a oes gennych chi unrhyw negeseuon heb eu darllen yn y gornel uchaf ar yr ochr dde ar eich Hafan Arbor. Cliciwch ar y botwm hwn i weld pob neges mewn ap a dderbyniwyd.

Gallwch chi hefyd fynd at y rhestr o negeseuon trwy fynd at y gwymplen ar dop eich sgrin a dewis Fy Eitemau > Negeseuon Ysgol.

Gallwch chi weld yr holl negeseuon a dderbyniwyd a’r holl negeseuon yr ydych chi wedi eu hanfon i’r ysgol (os yw eich ysgol yn caniatáu i chi anfon atebion). Mae pob neges newydd wedi’i marcio yn 'NEWYDD' ac wedi’i hysgrifennu mewn ysgrifen dywyll. Bydd negeseuon sydd wedi cael eu darllen wedi’u hysgrifennu mewn testun arferol.

Cliciwch ar y neges i’w gweld. Cliciwch ar ddolen mewn neges mewn ap i agor y dudalen mewn tab newydd.

Cliciwch ar ddolen mewn neges mewn ap i agor y dudalen mewn tab newydd.

Trwy’r Ap Rhieni

Wrth ddefnyddio’r Ap, byddwch chi’n derbyn Hysbysiad Gwthio (os ydych chi wedi galluogi’r nodwedd hon).

Tapiwch ar yr hysbysiad a mewngofnodi i’r ap er mwyn gallu gweld y neges.

Yn yr Ap, byddwch yn gweld hysbysiad ar waelod eich sgrin ar yr ochr dde. Cliciwch ar yr hysbysiad hwn, wedyn clicio ar Negeseuon i weld eich negeseuon.

Mae pob neges newydd wedi’i marcio yn 'NEWYDD' ac wedi’i hysgrifennu mewn ysgrifen dywyll. Bydd negeseuon sydd wedi cael eu darllen wedi’u hysgrifennu mewn testun arferol.

Cliciwch ar y neges i’w gweld.

Cliciwch ar ddolen mewn neges mewn ap i agor y dudalen yn eich ap porwr gwe diofyn (e.e. Safari, Chrome, ac ati).


Sut galla’ i anfon neges newydd?

Trwy’r Porth Rhieni

Os yw eich ysgol yn eich galluogi i ateb neu anfon negeseuon, cliciwch ar y botwm Anfon neges newydd.

Teipiwch eich neges, wedyn clicio ar Anfon y neges
 

Trwy’r Ap Rhieni

Os yw eich ysgol yn caniatáu i chi ateb negeseuon neu anfon negeseuon, cliciwch ar y botwm Anfon neges newydd.

Teipiwch eich neges, wedyn clicio ar Anfon y neges.


Sut galla’ i ateb neges?

Trwy’r Porth Rhieni

Os yw eich ysgol yn caniatáu i chi ateb negeseuon, gallwch chi glicio ar neges a chlicio ar y botwm 'Ymateb' i ateb.

Drafftiwch y neges, wedyn clicio ar anfon.

Wedyn, bydd y dudalen Negeseuon Ysgol yn dangos eich neges, a bydd hysbysiad yn cael ei ddangos os anfonwyd y neges yn llwyddiannus.

Trwy’r Ap Rhieni

Os yw eich ysgol yn caniatáu i chi ateb negeseuon, gallwch chi glicio ar neges a chlicio ar y botwm 'Ymateb' i ateb.

Drafftiwch y neges, wedyn clicio ar anfon.

Wedyn, bydd y dudalen Negeseuon yn dangos eich neges.


Beth sy’n digwydd os na fydda’ i’n darllen y neges mewn ap?

Os nad ydych chi’n darllen y neges mewn ap o fewn cyfnod amser penodol (er enghraifft, os nad oes gennych chi hysbysiadau gwthio wedi eu galluogi, neu nid ydynt yn defnyddio’r Ap Rhieni), gallai eich ysgol ddewis anfon nodyn atgoffa mewn neges destun neu neges e-bost.

Ni fydd cynnwys y neges yn y nodyn atgoffa mewn neges e-bost neu neges destun; bydd yn rhoi gwybod i chi bod neges newydd y bydd angen i chi fewngofnodi i Arbor i’w darllen.

 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
25 allan o 152 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.