Ymddygiad ar yr Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

Gallwch chi weld ystadegau sylfaenol Pwyntiau Ymddygiad eich plentyn trwy glicio ar ei enw ar dop y dudalen a sgrolio i lawr at yr adran Ystadegau. Gallwch chi weld y cyfanswm cyfredol y tymor hwn, eleni a’r tymor diwethaf.

Mae’r enghraifft isod yn dangos graddfa niwtral sy’n cadw cyfanswm cyfredol pwyntiau cadarnhaol a negyddol gyda’i gilydd. Efallai y byddwch chi’n gweld un raddfa fel hon, graddfeydd lluosog neu raddfa gadarnhaol yn unig, yn dibynnu ar beth mae eich ysgol wedi penderfynu ei arddangos.
 


Hefyd, yn yr adran Ystadegau, gallwch chi weld Digwyddiadau y mae eich plentyn wedi bod yn gysylltiedig â nhw. Gallwch chi weld nifer y digwyddiadau yn ystod y tymor hwn, eleni a’r tymor diwethaf.

Yn yr un modd â graddfeydd pwyntiau, efallai y byddwch chi’n gweld digwyddiadau cadarnhaol, digwyddiadau negyddol, y ddau neu nid y naill na’r llall, yn dibynnu ar beth mae eich ysgol wedi penderfynu ei arddangos.
 

 

I weld mwy o wybodaeth, cliciwch ar eicon y ddewislen ar waelod eich sgrin ar yr ochr chwith. Dewiswch Ymddygiad.

 

Ar y dudalen Ymddygiad, gallwch chi weld dadansoddiad manylach o’r Pwyntiau Ymddygiad, yn cynnwys y rheswm dros y pwyntiau a gafodd eu dyfarnu / eu tynnu, pwy a gofnododd y pwyntiau ac unrhyw nodiadau. Sylwer, efallai bod eich ysgol wedi dewis peidio ag arddangos pwy a ddyfarnodd y pwyntiau, a nodiadau.

 

Hefyd, ar y dudalen, gallwch chi weld mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau, ac unrhyw achosion a drefnwyd i gadw eich plentyn yn ôl.

 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
5 allan o 10 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.