Gweld a diweddaru gwybodaeth fy mhlentyn ar y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Mae’r Proffil Myfyriwr ar y Porth Rhieni yn rhoi trosolwg i chi o fanylion personol y myfyriwr. I fynd at y proffil myfyriwr, dewiswch y botwm gwyrdd Gweld y Proffil Myfyriwr.

 


Hysbysiadau a chydsyniadau

Mae’r adran hon yn cynnwys rhestr o wybodaeth sydd ar goll (yn cynnwys cydsyniadau) ar y proffil myfyriwr.

Cyngor Da: Byddwch yn gweld y baneri hyn o hyd ar ôl i chi lenwi’r wybodaeth os oes angen i’ch ysgol gymeradwyo’r newidiadau a wnaed. Arhoswch i’ch ysgol gymeradwyo’r newidiadau heb ychwanegu’r wybodaeth hon eto.

Ar y Porth Rhieni

Gallwch chi weld y rhain ar eich Hafan, hefyd, o dan y botwm Gweld y Proffil Myfyriwr.

 

I ddiweddaru’r wybodaeth hon, cliciwch ar hysbysiad. Bydd dewislen llithro drosodd yn ymddangos lle gallwch ychwanegu’r wybodaeth angenrheidiol.

Wedi i chi lenwi’r holl wybodaeth, bydd yr hysbysiadau’n diflannu – gallwch chi olygu’r wybodaeth trwy glicio i mewn i’r data ymhellach i lawr proffil eich plentyn.

 

Ar gyfer cydsyniadau, mae angen i chi naill ai bwyso ar Rhoi neu Gwrthod cydsyniad.

 

Bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol os oes angen i chi newid p’un a ydych chi wedi cydsynio ai peidio. Nid yw’n bosibl newid hyn trwy’r Porth Rhieni, ond gallwch chi weld eich cydsyniadau ar waelod y dudalen.

 

Ar yr Ap Rhieni

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

I ddiweddaru’r wybodaeth hon, cliciwch ar hysbysiad.

 

Ychwanegwch y wybodaeth, wedyn clicio ar Cadarnhau.

Wedi i chi lenwi’r holl wybodaeth, bydd yr hysbysiadau’n diflannu – gallwch chi olygu’r wybodaeth trwy glicio i mewn i’r data ymhellach i lawr proffil eich plentyn.

 

Ar gyfer cydsyniadau, mae angen i chi naill ai bwyso ar Rhoi neu Gwrthod cydsyniad.

 

Os byddwch yn dewis gwrthod y cydsyniad, gofynnir i chi gadarnhau eich dewis.

 

Bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol os oes angen i chi newid p’un a ydych chi wedi cydsynio ai peidio. Nid yw’n bosibl newid hyn trwy’r Porth Rhieni, ond gallwch chi weld eich cydsyniadau ar waelod y dudalen. Cliciwch i gael mwy o wybodaeth.

 

Pan fyddwch chi wedi darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol, bydd y dudalen yn dangos nad oes mwy o hysbysiadau.

 


Manylion Cyswllt

Manylion cyswllt myfyrwyr

Gan mai chi yw’r prif warcheidwad, gallwch weld a diwygio manylion cyswllt y plentyn. Gallwch chi ond gweld cyfeiriadau post yr ydych chi’n byw ynddynt gyda’r plentyn, hefyd.

Gellir ychwanegu manylion cyswllt newydd trwy glicio ar +Ychwanegu.

Gallwch chi olygu neu ddileu unrhyw fanylion cyswllt lle mae symbol saeth. Cliciwch ar y maes, cliciwch ar y botwm Golygu, wedyn ei olygu neu’i ddileu.

Sylwer: Rydym yn cynghori’n gryf na ddylai cofnodion cyfeiriadau gael eu golygu, gan fod ysgolion yn gofyn bod pob cyfeiriad yn cael ei gofnodi. Yn hytrach, gallwch chi glicio ar Ychwanegu cyfeiriad post i fewnbynnu’r cyfeiriad cywir.

 

Fy manylion cyswllt i, a manylion cyswllt gwarcheidwaid eraill

Mae’r adran Teulu, Gwarcheidwaid a Chysylltiadau yn arddangos pob un o’r gwarcheidwaid sy’n gysylltiedig â phroffil y myfyriwr. Gallwch chi ond gweld a diweddaru eich manylion eich hun.

Gallwch chi ychwanegu cysylltiadau newydd trwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn: Sut i ychwanegu gwarcheidwaid a chysylltiadau newydd ar gyfer eich plentyn

Os oes angen i chi ddiweddaru manylion gwarcheidwad arall, bydd angen i’r gwarcheidwad fewngofnodi a diweddaru’r manylion os yw’n brif warcheidwad, neu gallwch gysylltu â’ch ysgol i wneud unrhyw newidiadau ar eich rhan.

Ar yr Ap Rhieni

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

Ar dudalen y Proffil Myfyriwr, sgroliwch i lawr at yr adran Teulu, Gwarcheidwaid a Chysylltiadau. Bydd yn dangos enwau aelodau eraill o deulu eich plentyn yn unig, a’ch gwybodaeth chi.

  • I ychwanegu cyswllt newydd, cliciwch ar Ychwanegu aelod arall o’r teulu, gwarcheidwad neu gyswllt.
  • I ddiwygio eich gwybodaeth, cliciwch ar eich enw.

 

Ar eich proffil chi, cliciwch ar y botwm Camau Cyflym i ychwanegu gwybodaeth allweddol yn gyflym.

Gallwch chi hefyd ychwanegu neu ddiwygio gwybodaeth yn unrhyw le y gwelwch chi eicon saeth ar yr ochr dde. Cliciwch ar y wybodaeth i’w diwygio.

 

Er enghraifft, wrth ddiwygio cyfeiriad e-bost, byddwch yn gweld y dudalen hon. Dylech wybod os byddwch yn diwygio eich cyfeiriad e-bost diofyn, y bydd rhaid i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost newydd.

 


Gwybodaeth arall y gallwch ei gweld a’i diwygio

Ar y Porth Rhieni

Mae adran Manylion am y Myfyriwr yn cynnwys gwybodaeth bersonol y myfyriwr. Gellir diwygio unrhyw wybodaeth â’r symbol Parent_Portal___Student_profile.jpg i’r dde ohoni. 

Cliciwch ar y manylion am y myfyriwr yr hoffech eu diwygio. Wedyn, bydd dewislen llithro drosodd yn ymddangos i chi ddiweddaru’r wybodaeth. Ar ôl diweddaru’r wybodaeth, dewiswch Cadw’r Newidiadau.

 

Mae’r adran Dewisiadau Prydau Bwyd a Gofynion Deietegol yn dangos unrhyw ofynion deietegol sydd gan y myfyriwr ac yn arddangos y dewisiadau prydau bwyd presennol.

I ychwanegu gofyniad deietegol arall, cliciwch ar +Ychwanegu a diweddaru’r ddewislen llithro drosodd.

 

Bydd yr adran Ysgolion Blaenorol yn rhestru cofrestriadau blaenorol y myfyriwr mewn ysgolion yn y gorffennol. I weld manylion am ysgol flaenorol a restrwyd, bydd dewislen llithro drosodd yn ymddangos yn arddangos holl fanylion yr ysgol. 

I ychwanegu ysgol hanesyddol newydd, cliciwch ar +Ychwanegu.

 

Bydd yr adran Meddygol yn llwytho’r holl fanylion meddygol sy’n gysylltiedig â phroffil y myfyriwr. Mae hyn yn cynnwys Meddyg, Cyflyrau Meddygol, Imiwneiddiadau’r myfyriwr, ac ati, yn dibynnu ar beth rydych chi wedi’i ychwanegu.

I ddiweddaru unrhyw un o’r adrannau, cliciwch ar un ohonynt. Diwygiwch y manylion ar y ddewislen llithro drosodd a chlicio ar Cadw’r Newidiadau

 

Os byddwch yn clicio ar eitem sy’n aros am gadarnhad gan eich ysgol i’r newidiadau ddod i rym, gallwch weld y wybodaeth, neu ganslo’r cais i newid.

 

Ar yr Ap Rhieni

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

Gallwch chi ychwanegu gwybodaeth yn gyflym trwy glicio ar y botwm Ychwanegu Gwybodaeth a dewis y wybodaeth yr hoffech ei hychwanegu.

Wedi i chi ychwanegu’r wybodaeth, cliciwch ar y botwm gwyrdd ar y gwaelod.

 

Gallwch chi hefyd ychwanegu neu ddiwygio gwybodaeth yn unrhyw le y gwelwch chi eicon saeth ar yr ochr dde. Cliciwch ar y wybodaeth i’w diwygio.

 

Os byddwch yn clicio ar eitem sy’n aros am gadarnhad gan eich ysgol i’r newidiadau ddod i rym, gallwch weld y wybodaeth, neu ganslo’r cais i newid.

 


Enw’r plentyn

Gallwch chi olygu’r enwau cyntaf ac olaf y mae eich plentyn yn eu ffafrio.

Sylwch y bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol i ofyn iddi newid yr enw cyntaf cyfreithiol, yr enwau canol neu’r enw olaf cyfreithiol.

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
13 allan o 56 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.