Presenoldeb ar y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Gallwch gael mynediad at wybodaeth am bresenoldeb eich plentyn, yn cynnwys tystysgrif presenoldeb.


Ar y Porth Rhieni 

Ar eich Hafan, gallwch weld presenoldeb statudol eich plentyn yn y bore a’r prynhawn eleni hyd yma, ac am y 4 wythnos ddiwethaf.

I weld mwy o wybodaeth, cliciwch ar y deilsen Presenoldeb, neu cliciwch ar y botwm Gweld y Proffil Myfyriwr ac ewch i Presenoldeb o’r ddewislen ar yr ochr chwith.

Bydd y dudalen Crynodeb o Bresenoldeb yn llwytho dadansoddiad o bresenoldeb y myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol.

Bydd yr Adran Ystadegau yn dangos nifer y sesiynau a’r ganran sydd gan y myfyriwr ar gyfer pob marc.

  • Bydd yr adran Presenoldeb Diweddar yn dangos nifer y sesiynau a chanran y 'marciau presennol’ ar gyfer yr wythnos bresennol.
  • Presenoldeb Posibl: Mae’r rhif hwn yn dangos cyfanswm nifer y sesiynau (cofrestrau) y dylai’r myfyriwr eu mynychu ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol.
  • Presennol: Mae’r adran hon yn dangos cyfanswm nifer y cofrestrau y mynychodd y myfyriwr a chanran y ‘marciau presennol’ ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol.
  • Hwyr: Mae’r adran hon yn dangos cyfanswm nifer yr adegau yr oedd y myfyriwr yn hwyr ar gyfer cofrestru. 
  • Absenoldeb Awdurdodedig: Mae’r adran hon yn dangos nifer yr adegau y mae’r myfyriwr wedi cael ei farcio’n absennol.
  • Absenoldeb Anawdurdodedig: Mae’r adran hon yn dangos nifer yr adegau y mae’r myfyriwr wedi cael ei farcio’n absennol. Fodd bynnag, ni chafodd yr absenoldebau hyn eu cymeradwyo gan yr ysgol.

Yn yr adran Presenoldeb Yn Ôl Dyddiad, mae presenoldeb dyddiol y myfyriwr ar gyfer y bore a’r prynhawn wedi’i restru yn y grid.

Fel mater o drefn, dangosir yr wythnos a’r flwyddyn ddiwethaf, ond gallwch newid hyn trwy ddefnyddio’r cwymplenni.

Sgroliwch i lawr at waelod y dudalen a chlicio ar y botwm Tystysgrif Presenoldeb i lawrlwytho’r dystysgrif fel PDF.


Ar yr Ap Rhieni

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

Gallwch chi weld ystadegau sylfaenol am bresenoldeb statudol cyffredinol eich plentyn yn y bore a’r prynhawn ar gyfer y flwyddyn, a phresenoldeb eich plentyn ar gyfer y pedair wythnos ddiwethaf trwy glicio ar ei enw ar dop y dudalen a sgrolio i lawr i’r adran Ystadegau.

I weld mwy o wybodaeth, cliciwch ar eicon y ddewislen ar waelod eich sgrin ar yr ochr chwith. O’r ddewislen, o dan Presenoldeb, dewiswch un o’r opsiynau canlynol.

Cliciwch ar Crynodeb i weld ystadegau ar gyfer Presennol, Hwyr ac Absennol ar gyfer y flwyddyn hyd yma, ac ar gyfer yr wythnos ddiwethaf.

Dewiswch Yn ôl Dyddiad i weld pob un o’r marciau presenoldeb a roddwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd, fesul wythnos.

Cliciwch ar y botwm Tystysgrif Presenoldeb i weld neu lawrlwytho’r tystysgrifau presenoldeb i’w rhannu.

 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
8 allan o 99 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.