Ychwanegu gwarcheidwaid a chysylltiadau newydd ar gyfer eich plentyn ar y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Mae’r erthygl hon yn esbonio sut gall prif warcheidwaid ychwanegu gwarcheidwaid a chysylltiadau newydd ar gyfer eu plentyn gan ddefnyddio’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni. Mae’n rhoi manylion am y camau i weld proffil y plentyn, ychwanegu cysylltiadau newydd, a’r broses ar gyfer marcio rhywun yn brif warcheidwad. Mae hefyd yn sôn bod angen i’r ysgol gymeradwyo newidiadau a sut i ddileu manylion anghywir a ychwanegwyd.

Gan mai chi yw’r prif warcheidwad, gallwch chi fewngofnodi yn y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni a diweddaru manylion eich plentyn. Er na allwch chi olygu manylion gwarcheidwaid eraill (bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol yn uniongyrchol iddynt wneud hyn ar eich rhan), gallwch ychwanegu gwarcheidwaid newydd sy’n gysylltiedig â’ch plentyn. 

Wedi i chi fewngofnodi, cliciwch ar Gweld y Proffil Myfyriwr

Yma, gallwch weld holl wybodaeth eich plentyn. 

I ychwanegu cyswllt newydd, cliciwch ar Ychwanegu Gwybodaeth. Dewiswch Ychwanegu Gwarcheidwad/Cyswllt o restr y gwymplen.

Gallwch chi hefyd glicio ar +Ychwanegu yn yr adran Teulu, Gwarcheidwaid a Chysylltiadau.

Pan fyddwch chi’n hapus â’r wybodaeth newydd, cliciwch ar Ychwanegu Gwarcheidwad/Cyswllt

Sylwer: I farcio rhywun yn Brif Warcheidwad, cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol wedi i chi ychwanegu’r wybodaeth.

Os oes rhaid i’ch ysgol dderbyn newidiadau i gofnodion, bydd y gwarcheidwad newydd yn dangos fel Dan ystyriaeth.

Hyd nes caiff y manylion eu derbyn, gallwch chi glicio ar enw’r gwarcheidwad a’i ddileu gan ddefnyddio’r botwm oren os ydych chi wedi ychwanegu unrhyw fanylion yn anghywir, wedyn ychwanegu’r enw eto.

Ar ôl i’r newidiadau gael eu derbyn gan yr ysgol, ni fyddwch yn gallu gweld manylion y gwarcheidwad arall. Bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol i ofyn am gael gwneud mwy o newidiadau i’w fanylion, os oes angen.

 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
6 allan o 22 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.