[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Ar eich Hafan, gallwch chi weld y pwyntiau sydd wedi cael eu dyfarnu i’ch plentyn, a’r digwyddiadau cadarnhaol a negyddol (yn dibynnu ar beth mae eich ysgol wedi dewis ei arddangos) eleni hyd yma, ac ar gyfer y tymor diwethaf.
I weld mwy o wybodaeth, cliciwch ar deilsen ymddygiad neu cliciwch ar y botwm Gweld y Proffil Myfyriwr ac ewch i Ymddygiad o’r ddewislen ar yr ochr chwith.
Caiff sgorau ymddygiad y myfyriwr o’r flwyddyn academaidd bresennol eu dangos fel mater o drefn. I newid y flwyddyn academaidd, cliciwch ar y gwymplen.
Bydd yn arddangos cyfanswm pwyntiau’r myfyriwr, a dadansoddiad o’r pwyntiau a ddyfarnwyd.
Gallwch chi weld digwyddiadau cadarnhaol a negyddol sydd wedi eu cofnodi, yn cynnwys dadansoddiad (yn dibynnu ar beth mae eich ysgol wedi’i rannu gyda chi).
Gallwch chi weld unrhyw achosion o gadw’r myfyriwr yn ôl, yn cynnwys p’un a fynychodd ai peidio.
[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.