Trefnu Ymgynghoriadau â Gwarcheidwaid (Nosweithiau Rhieni) ar y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Os yw eich ysgol yn cynnal Ymgynghoriadau â Gwarcheidwaid (nosweithiau rhieni) ac wedi’ch galluogi i gadw lle, byddwch yn gallu dewis amser trwy’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni.


Ar y Porth Rhieni 

Byddwch chi’n gweld ar eich hafan p’un a oes Ymgynghoriad â Gwarcheidwaid yn cael ei gynnal cyn bo hir.

Yn yr achos lle nad oes unrhyw Noson Rieni wedi cael ei threfnu, bydd yr adran yn datgan yr isod: 

 

Os oes digwyddiad Ymgynghoriad wedi cael ei greu ond nad yw hunanamserlennu wedi cael ei alluogi gan yr ysgol eto, bydd dyddiadau’r noson rieni yn cael eu dangos gyda nodyn ynghylch pryd bydd hunanamserlennu ar gael.

 

Gallwch weld mwy o fanylion am y cyfarfod a threfnu slot os yw eich ysgol wedi galluogi hyn.

 

Os nad yw’n bosibl trefnu cyfarfod eto ond rydych chi’n credu y dylech allu gwneud hynny, cysylltwch â’ch ysgol. Gallwch chi hefyd ychwanegu nodyn yma.

 

Byddwch chi’n gallu gweld pryd mae slot ar gael. 

 

Cliciwch i fynd at y dudalen i drefnu a dewis y cyfarfod i’w drefnu.

Gallwch chi lawrlwytho rhestr o’r cyfarfodydd rydych chi wedi eu trefnu fel PDF trwy glicio ar y botwm gwyrdd Lawrlwytho fy nghyfarfodydd.

 

Cliciwch ar fotwm y gwymplen slot amser a dewis yr amser yr hoffech chi fynychu’r ymgynghoriad, a pha warcheidwaid fydd yn mynychu. Cyngor Da: Gallwch chi ddewis o blith unrhyw warcheidwaid y mae’r ysgol wedi eu cysylltu â’r plentyn. Dim ond gwarcheidwaid sydd â chyfrifoldeb rhiant sy’n gallu mewngofnodi i’r Porth Rhieni.

Os na allwch chi ddewis slot amser, mae’n golygu nad oes cyfnod argaeledd wedi cael ei roi i’r aelod staff – cysylltwch â’ch ysgol a gofyn iddi ychwanegu hyn at ei system i’ch galluogi i drefnu slot.

 

Gwnewch yn siŵr fod tic wrth ochr o leiaf un gwarcheidwad, neu byddwch chi’n derbyn rhybudd gwall.

 

Wedyn, bydd y dudalen yn ail-lwytho ac yn dangos eich bod wedi gallu trefnu slot yn llwyddiannus. Bydd neges e-bost yn cael ei hanfon atoch i gadarnhau.

 

Gallwch chi olygu eich bwciad trwy ddychwelyd at y dudalen a chlicio ar eich bwciad.

  • Dewiswch slot amser gwahanol a chlicio ar Aildrefnu cyfarfod i newid eich slot.
  • Cliciwch ar Diwygio gwarcheidwaid i ddileu un o warcheidwaid y plentyn neu’i ychwanegu’n ôl yn y cyfarfod.

 

 

Os ydych chi wedi tynnu’r tic wrth eich enw chi fel y gwarcheidwad sy’n mynychu, bydd gennych chi opsiwn i drefnu slot cyfarfod ar wahân os yw eich ysgol yn caniatáu hyn.

Os ydych chi eisiau dileu bwciad anghywir neu ychwanegu’ch hun yn ôl at y bwciad gwreiddiol, cysylltwch â’ch ysgol a gofyn iddi ddiwygio hyn ar eich rhan.


Ar yr Ap Rhieni

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

Ar y brif dudalen, os yw eich ysgol wedi agor bwciad, gallwch ddewis Ymgynghoriadau â Gwarcheidwaid.

 

Gallwch chi ddefnyddio’r ddewislen, hefyd. Cliciwch ar eicon y ddewislen ar waelod eich sgrin ar yr ochr chwith, wedyn dewis Ymgynghoriadau â Gwarcheidwaid.

 

Bydd hyn yn mynd â chi at y dudalen ymgynghori. Gallwch weld y dyddiadau a gallwch drefnu slotiau cyfarfod ynddynt, a gweld tan pryd y gallwch chi drefnu’r slotiau hyn.

Gallwch lawrlwytho rhestr o’r cyfarfodydd yr ydych wedi eu trefnu fel PDF trwy glicio ar y botwm gwyrdd Lawrlwytho fy nghyfarfodydd.

 

I drefnu cyfarfod, cliciwch ar y cyfarfod sydd ar gael ar waelod y sgrin.

Cliciwch ar y gwymplen Slot amser a dewis yr amser yr hoffech chi fynychu’r ymgynghoriad, a pha warcheidwaid a fydd yn mynychu. Cyngor Da: Gallwch chi ddewis o blith unrhyw warcheidwaid y mae’r ysgol wedi’u cysylltu â’r plentyn. Dim ond gwarcheidwaid sydd â chyfrifoldeb rhiant sy’n gallu mewngofnodi i’r Porth Rhieni.

Os na allwch chi ddewis slot amser, mae’n golygu nad oes cyfnod argaeledd wedi cael ei roi i’r aelod staff – cysylltwch â’ch ysgol a gofyn iddi ychwanegu hyn at ei system i’ch galluogi i drefnu slot.

Gwnewch yn siŵr fod tic wrth ochr o leiaf un gwarcheidwad, neu ni fyddwch yn gallu clicio ar y botwm Trefnu Slot Amser.

 

Gofynnir i chi gadarnhau eich dewis a bydd neges e-bost i gadarnhau yn cael ei hanfon atoch.

 

Wedyn, bydd y dudalen yn dangos bod eich bwciad yn llwyddiannus.

 

Gallwch olygu eich bwciad trwy ddychwelyd at y dudalen a chlicio ar eich bwciad. Dewiswch slot amser gwahanol a chlicio ar Aildrefnu cyfarfod i newid eich slot.

 

Cliciwch ar Diwygio gwarcheidwaid i ddileu un o warcheidwaid y plentyn neu’i ychwanegu’n ôl yn y cyfarfod.

 

Ni fyddwch chi’n gallu dileu pob gwarcheidwad o’r slot, a byddwch yn derbyn y rhybudd gwall hwn.

 

Os ydych chi wedi tynnu’r tic wrth eich enw chi fel y gwarcheidwad sy’n mynychu, bydd gennych chi opsiwn i drefnu slot cyfarfod ar wahân os yw eich ysgol yn caniatáu hyn.

Os ydych chi eisiau dileu bwciad anghywir neu ychwanegu’ch hun yn ôl at y bwciad gwreiddiol, cysylltwch â’ch ysgol a gofyn iddi ddiwygio hyn ar eich rhan.

 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
119 allan o 382 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.