Y Calendr a’r amserlen ar y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Gallwch chi weld pa wersi a digwyddiadau y mae eich plentyn yn cymryd rhan ynddynt ar y Porth Rhieni ac ar yr Ap Rhieni. Edrychwch isod i weld sut i ddefnyddio’r ardaloedd hyn.


Ar y Porth Rhieni

Y calendr ar y Porth Rhieni

Mae tudalen y Calendr yn dangos amserlen y myfyriwr, yn cynnwys unrhyw ddigwyddiadau y mae’r myfyriwr wedi cael gwahoddiad iddynt. Cliciwch ar y botwm Gweld y Proffil Myfyriwr ac ewch at y Calendr o’r ddewislen ar yr ochr chwith.

 

Gallwch chi hefyd gael mynediad at y calendr trwy glicio ar adran y Calendr.

 

Ar yr hafan, cliciwch ar wers i weld mwy o fanylion mewn dewislen llithro drosodd.

 

Mae’r calendr llawn yn arddangos yr wythnos bresennol, fel mater o drefn.

  • Gellir newid y mis trwy glicio ar y saeth nesaf at y mis a dewis un arall.
  • Newidiwch yr hyn yr ydych yn ei weld o ddiwrnod, wythnos neu fis trwy glicio ar y botymau.

Cyngor Da: Dylech hofran dros ddigwyddiad i gael mwy o fanylion, neu edrych ar y lleoliad trwy ddewis gweld y Diwrnod.

 

Cliciwch ar y saethau ar eicon y calendr ar y top i edrych ar y gwersi yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, ffurflen gofrestru neu athro. 

 

Ar gyfer clybiau gofal cofleidiol, sylwch y bydd y digwyddiad calendr yn ymestyn dros y sesiwn gyfan. Gallwch hofran dros y digwyddiad i weld gwir amseroedd sesiynau.

 

Amserlen Argraffadwy ar y Porth Rhieni

Dewiswch Amserlen Argraffadwy o Camau Cyflym ar ein hafan, neu ewch at broffil y myfyriwr a dewis Amserlen Argraffadwy o’r ddewislen ar yr ochr chwith.

Dewiswch naill ai’r wythnos bresennol neu’r wythnos nesaf, wedyn clicio ar Lawrlwytho. Bydd hyn yn lawrlwytho amserlen eich plentyn fel dogfen PDF i’ch cyfrifiadur, yn debygol yn eich ffolder lawrlwythiadau.

Cyngor Da: Mae fformat yr amserlen wedi’i seilio ar osodiadau eich ysgol – cysylltwch â’ch ysgol i gael mwy o wybodaeth.

 


Ar yr Ap Rhieni

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

Y calendr ar yr Ap Rhieni

O’r dudalen Trosolwg (sy’n hygyrch trwy glicio ar y botwm â thair llinell a mynd at y Prif Ddangosfwrdd), gallwch weld calendr o’u holl wersi a digwyddiadau ar gyfer heddiw.

  • Tapiwch ar y botymau i fynd yn ôl at ddiwrnodau yn y gorffennol, neu neidio ymlaen ar gyfer diwrnodau yn y dyfodol.
  • Cyngor Da: Gallwch chi ond gweld digwyddiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol, felly ni fydd modd clicio ar y botymau y tu allan i’r dyddiadau hyn.
  • Tapiwch ar eitem yn y calendr i gael mwy o fanylion.

 

Amserlen argraffadwy ar yr Ap Rhieni

Dewiswch y tair llinell ar yr ochr yng ngwaelod eich ap, a dewis Amserlen Argraffadwy.

  • Dewiswch naill ai’r wythnos bresennol neu wythnos nesaf, wedyn clicio ar Lawrlwytho.

Wedyn, gallwch chi weld yr amserlen yn yr ap. Ni fydd hwn yn lawrlwytho i’ch dyfais, ond gallwch chi gymryd sgrin lun.

Cyngor Da: Mae fformat yr amserlen wedi’i seilio ar osodiadau eich ysgol – cysylltwch â’ch ysgol i gael mwy o wybodaeth.

 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
35 allan o 286 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.