Cynnydd Academaidd ar y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Gallwch gael mynediad at wybodaeth am gynnydd a chyrhaeddiad academaidd eich plentyn.

Cyngor Da: Os yw eich ysgol fel arfer yn defnyddio graddau â geiriau yn hytrach na rhifau (fel EXS, GDS, BLW, WTS), byddwch yn gweld rhifau mewn dadansoddiad lle mae cyfuniad o sgorau neu gyfartaledd sgorau.


Ar y Porth Rhieni 

Ar eich Hafan, gallwch weld gradd asesu presennol eich plentyn a faint o’r cwricwlwm y mae wedi’i gwblhau yn ystod y tymor hwn o gymharu â’r tymor diwethaf.

I weld mwy o wybodaeth, cliciwch ar y deilsen Cyfartaledd Graddau neu’r deilsen Cynnydd, neu cliciwch ar y botwm Gweld y Proffil Myfyriwr a mynd at Cynnydd o’r ddewislen ar yr ochr chwith.

Fel mater o drefn, bydd y dudalen hon yn dangos y flwyddyn a’r tymor presennol i chi, ond gallwch chi newid hyn trwy ddefnyddio’r cwymplenni.

Byddwch yn gweld rhestr o’r Asesiadau (e.e. Gwyddoniaeth), Gwaelodlin Blwyddyn, Yn Gweithio Ar (gradd bresennol), Targed Blwyddyn a Chynnydd Blwyddyn.

Mae’r graff Cyfartaledd Graddau Dros Gyfnod yn dangos graddau’r myfyriwr o’r Tabl Yn Gweithio Ar.

Fel mater o drefn, bydd y graff yn dangos cyfartaledd cyffredinol y myfyriwr, ond gellir rhannu hyn yn fanylion trwy glicio naill ai ar asesiadau penodol neu asesiadau lluosog.

 

 

Mae’r graff wedi’i osod i ddangos unrhyw raddau islaw’r targed yn yr adran Oren, mae Yn Cyrraedd y Targed yn yr adran Lwyd ac Uwchlaw’r Targed yn yr Adran Werdd.

Gellir dileu’r adrannau lliw trwy dynnu’r tic oddi wrth yr adrannau "Uwchlaw’r Targed" ac "Islaw’r Targed".

Os defnyddiodd eich ysgol asesiad parhaus, cliciwch yn Olrhain y Cwricwlwm > Llyfr Marcio o’r ddewislen ar yr ochr chwith i weld sut mae eich plentyn yn gwneud yn erbyn y cwricwlwm.


Ar yr Ap Rhieni

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

Gallwch weld ystadegau sylfaenol marciau Asesu cyffredinol eich plentyn ar gyfer y tymor hwn a’r tymor diwethaf, a ph’un a yw ‘Ar y trywydd iawn’ trwy glicio ar ei enw ar dop y dudalen a sgrolio i lawr i’r adran Ystadegau.

I weld mwy o wybodaeth, cliciwch ar eicon y ddewislen ar waelod eich sgrin ar yr ochr chwith. O’r ddewislen, dewiswch Olrhain y Cwricwlwm i weld cynnydd eich plentyn.

  • Os nad yw eich ysgol yn defnyddio Olrhain y Cwricwlwm, bydd y sgrin yn dangos hyn.
  • Os yw eich ysgol yn defnyddio Olrhain y Cwricwlwm, byddwch chi’n gallu dewis y flwyddyn academaidd a’r cwricwlwm yr hoffech eu gweld. Wedyn, gallwch weld pob datganiad, y radd a roddwyd, a phryd rhoddwyd y radd.

I weld cynnydd Asesiad Crynodol eich plentyn, cliciwch ar yr eicon dewislen ar waelod eich sgrin ar yr ochr chwith. O’r ddewislen, dewiswch Cynnydd. Gallwch chi ddewis y flwyddyn academaidd a’r tymor, a gweld gwaelodlin, gradd bresennol, targed a phwyntiau cynnydd eich plentyn.

Os byddwch chi’n sgrolio i lawr at waelod y sgrin hon, gallwch chi weld graff o radd eich plentyn dros gyfnod. Hwn yw cyfartaledd ei holl raddau ‘Yn Gweithio Ar’ bob mis.

 

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
3 allan o 24 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.