Aseiniadau eich plentyn ar y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Er na all gwarcheidwaid gyflwyno aseiniadau na gwaith cartref trwy’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni (mae hyn ond yn bosibl trwy’r Porth Myfyrwyr), gall gwarcheidwaid weld pa waith cartref sydd wedi cael ei roi, pryd mae angen ei gyflwyno, a ph’un a yw wedi cael ei gyflwyno.

Edrychwch ar yr erthygl hon i weld beth all eich plentyn ei weld a’i gyflwyno ar gyfer aseiniadau: Y Porth Myfyrwyr


Ar y Porth Rhieni

Gallwch chi weld aseiniadau eich plentyn ar eich Hafan. Cliciwch ar aseiniad i weld mwy o fanylion.


Ar ôl cyflwyno’r aseiniad, gallwch chi glicio arno i weld unrhyw farciau a roddwyd a lawrlwytho’r hyn a gyflwynwyd, os oes angen.

 


Ar yr Ap Rhieni

Mae fersiwn Gymraeg yr Ap Rhieni yn dal i gael ei datblygu ac nid yw ar gael eto. Gall y canllawiau hyn fod yn anghyflawn neu efallai bod sgrinluniau ar goll, ac nid ydynt yn derfynol.

Gallwch chi weld aseiniadau eich plentyn ar eich prif dudalen. 

  • Cliciwch ar aseiniad i weld mwy o fanylion.
  • Ar ôl cyflwyno’r aseiniad, gallwch chi glicio arno i weld unrhyw farciau a roddwyd. Ni allwch chi lawrlwytho unrhyw beth a gyflwynwyd – gellir ond gwneud hyn trwy borwr y Porth Rhieni.

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
30 allan o 126 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.