[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Mae’r erthygl hon yn esbonio sut i ychwanegu eich rhif Yswiriant Gwladol ar y Porth Rhieni trwy gael mynediad at broffil eich plentyn a diweddaru’r adran berthnasol. Mae hefyd yn rhoi cynghorion ar faterion posibl a’r broses ar gyfer newidiadau i’w derbyn gan yr ysgol.
Gallwch chi ddiweddaru eich rhif Yswiriant Gwladol eich hun ar y Porth Rhieni. Cliciwch ar enw eich plentyn i fynd at ei broffil.
Yn yr adran Teulu, Gwarcheidwaid a Chysylltiadau, cliciwch arnoch chi eich hun.
Yn yr adran Hunaniaeth, cliciwch ar y maes Rhif Yswiriant Gwladol.
Ychwanegwch y rhif, wedyn clicio ar Cadw’r Newidiadau.
Cynghorion Da:
- Os yw’r rhif Yswiriant Gwladol hwn eisoes wedi cael ei ychwanegu ar broffil arall, ni fyddwch yn gallu ei ychwanegu – cysylltwch â’ch ysgol i gywiro unrhyw gamgymeriadau.
- Os ydych chi’n warcheidwad sydd hefyd yn aelod staff, dylai fod gennych eich rhif Yswiriant Gwladol chi yn unig wedi’i gofnodi ar eich Proffil Staff, felly ni fyddwch yn gallu ychwanegu eich rhif Yswiriant Gwladol at eich proffil gwarcheidwad.
Os oes rhaid i’ch ysgol dderbyn newidiadau i gofnodion, bydd y newidiadau’n dangos fel Dan ystyriaeth. Hyd nes caiff y manylion eu derbyn, gallwch chi glicio ar y newid a chanslo’r newid gan ddefnyddio’r botwm oren.
Wedi i’r newidiadau gael eu derbyn gan yr ysgol, gallwch chi olygu neu ddileu’r manylion hyn.
[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.