Dewisiadau Prydau Bwyd ar y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Os yw eich ysgol wedi galluogi’r swyddogaeth Bwydlenni Prydau Bwyd, gallwch ddewis prydau bwyd eich plentyn ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ardal Dewisiadau Prydau Bwyd!

Sylwer eich bod yn gallu gweld ond ddim yn gallu golygu eich dewisiadau prydau bwyd mwyach ar ôl i’r terfyn amser y mae eich ysgol wedi’i osod ddod i ben – cysylltwch â’ch ysgol os hoffech chi newid eich dewis.


Ar y Porth Rhieni

O brif dudalen y Porth Rhieni, cliciwch ar Camau Cyflym a dewis Prydau Bwyd.
 

Eir â chi at y dudalen Dewisiadau Prydau Bwyd, lle byddwch yn gweld rhestr o Brydau Bwyd y mae bwydlenni ar gael i ddewis o’u plith. Gallwch chi weld prydau bwyd blaenorol trwy ddefnyddio’r gwymplen Blwyddyn Academaidd. 
 

Cliciwch ar bryd bwyd.

 

Wedyn, gallwch weld y dudalen Dewisiadau Prydau Bwyd:

  • Gallwch chi weld balans cyfrif prydau bwyd eich plentyn ar y top – os yw’r balans hwn yn negyddol, bydd yn cael ei amlygu’n goch.
  • Gallwch chi ychwanegu at y balans trwy daliad cerdyn gan ddefnyddio’r botwm Ychwanegu at y Cyfrif. Gallwch chi weld mwy am ychwanegu at gyfrifon yma: Adolygu Balansau ac Ychwanegu Arian
     

Ar y dudalen, gallwch chi weld yr holl ddyddiadau yn y dyfodol y gallwch ddewis pryd bwyd ar eu cyfer:

  • Y terfyn amser wedi pasio – mae’r terfyn amser a osododd eich ysgol i ddewis prydau bwyd wedi pasio ac ni allwch ei olygu. Gall athro eich plentyn ddiwygio’i ddewis tra’n cymryd y gofrestr, neu gallwch gysylltu â’ch ysgol os hoffech newid pa bryd bwyd y mae eich plentyn yn mynd i’w gael.
  • Gwyliau ysgol – dim dewisiadau ar gael. Mae eich ysgol wedi gosod y diwrnod hwn fel diwrnod dim ysgol. Cysylltwch â’ch ysgol (peidiwch â chysylltu ag Arbor) os yw hyn yn anghywir.
  • Dim dewisiadau wedi eu gwneud – cliciwch i ddewis y pryd bwyd y bydd eich plentyn yn ei gael.
  • Dewis Pryd Bwyd – rydych chi eisoes wedi dewis pryd bwyd, ond gallwch chi glicio arno i newid eich dewis.
     

 

Ychwanegu a chadarnhau dewisiadau

I ddewis pryd bwyd (ar gyfer un pryd bwyd neu wythnos):

  • Cliciwch ar ddiwrnod i weld opsiynau prydau bwyd ar gyfer yr wythnos honno.
  • Gwnewch eich dewisiadau o’r gwymplen nesaf at bob diwrnod.
  • Sicrhewch fod y diwrnodau heb ddewisiadau wedi cael eu gosod i Dim Dewis wedi ei Wneud (gallwch chi ddiweddaru’r rhain yn ddiweddarach).
  • Cliciwch ar y botwm gwyrdd Prosesu i gadarnhau.

 

Os yw eich ysgol yn gofyn i chi gael digon o falans yn eich cyfrif Prydau Bwyd i dalu cost eich dewisiadau prydau bwyd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, caiff eich dewisiadau eu hychwanegu at eich Basged cyn eu cadarnhau yn llawn.

Gallwch chi nodi pa ddewisiadau sydd heb eu cadarnhau trwy chwilio am y geiriau "Yn y fasged" a thrwy gyfeirio at y faner rhybudd ar dop y dudalen, yn eich rhybuddio bod Dewisiadau prydau bwyd yn y fasged

 

Cliciwch ar y ddolen Ewch at eich basged yn y faner neu ewch at Fy Eitemau > Fy Nhaliadau gan ddefnyddio’r ddewislen ar y top i edrych ar eich dewisiadau sydd yn yr arfaeth.

Os yw eich balans yn ddigonol, mae clicio ar Man talu yn cadarnhau eich dewisiadau ar unwaith. Os na, bydd angen i chi gofnodi manylion eich cerdyn i dalu’r gwahaniaeth cyn cadarnhau eich dewisiadau.

 

Golygu dewisiadau

I olygu dewis pryd bwyd sydd eisoes wedi cael ei wneud, rhaid i chi ddileu’r dewis pryd bwyd presennol yn gyntaf. Os na fyddwch yn gwneud hyn yn gyntaf, byddwch yn gweld neges rybudd goch yn eich rhybuddio "ni allwch chi ychwanegu dewis pryd bwyd ar gyfer [y dyddiad], gan fod un yn bodoli eisoes. Dylech ddileu’r dewis pryd bwyd presennol yn gyntaf" pan fyddwch yn ceisio newid y dewis pryd bwyd. 

I ddileu dewis pryd bwyd:

  • Cliciwch ar y diwrnod yr hoffech ei newid i agor y sgrin olygu.
  • Diweddarwch y dewis pryd bwyd i Dim Dewis wedi ei Wneud gan ddefnyddio’r gwymplen
  • Cliciwch ar y botwm gwyrdd Prosesu i ddileu’r dewis

Mae hyn yn newid y diwrnod yn ôl i Dim dewisiadau wedi eu gwneud.
 

 


Ar yr Ap Rhieni

Placeholder notification that the App is not ready

Cliciwch ar y tair llinell i fynd at eich prif fwydlen, wedyn clicio ar Prydau Bwyd.

 

Byddwch chi’n mynd at dudalen Dewisiadau Prydau Bwyd, lle byddwch yn gweld rhestr o Brydau Bwyd sydd â bwydlenni ar gael i ddewis o’u plith.  Gallwch chi weld prydau bwyd blaenorol trwy ddefnyddio’r gwymplen Blwyddyn Academaidd. 

Cliciwch ar bryd bwyd.

 

Wedyn, gallwch weld y dudalen Dewisiadau Prydau Bwyd:

  • Gallwch chi weld balans cyfrif prydau bwyd eich plentyn ar y top – os yw’r balans hwn yn negyddol, bydd wedi’i amlygu’n goch.
  • Gallwch chi ychwanegu at y balans trwy daliad cerdyn gan ddefnyddio’r botwm Ychwanegu at y cyfrif. Gallwch chi weld mwy am ychwanegu arian yma: Adolygu Balansau ac Ychwanegu Arian

 

Ar y dudalen, gallwch chi weld yr holl ddyddiadau yn y dyfodol y gallwch ddewis pryd bwyd ar eu cyfer:

  • Y terfyn amser wedi pasio – mae’r terfyn amser a osododd eich ysgol i ddewis prydau bwyd wedi pasio ac ni allwch ei olygu. Gall athro eich plentyn ddiwygio’i ddewis tra’n cymryd y gofrestr, neu gallwch gysylltu â’ch ysgol os hoffech newid pa bryd bwyd y mae eich plentyn yn mynd i’w gael.
  • Gwyliau ysgol – dim dewisiadau ar gael. Mae eich ysgol wedi gosod y diwrnod hwn fel diwrnod dim ysgol. Cysylltwch â’ch ysgol (peidiwch â chysylltu ag Arbor) os yw hyn yn anghywir.
  • Dim dewisiadau wedi eu gwneud – cliciwch i ddewis y pryd bwyd y bydd eich plentyn yn ei gael.
  • Dewis Pryd Bwyd – rydych chi eisoes wedi dewis pryd bwyd, ond gallwch chi glicio arno i newid eich dewis.

Ychwanegu a chadarnhau dewisiadau

I ddewis pryd bwyd (ar gyfer un pryd bwyd neu wythnos):

  • Cliciwch ar ddiwrnod i weld opsiynau prydau bwyd ar gyfer yr wythnos honno.
  • Gwnewch eich dewisiadau o’r gwymplen nesaf at bob diwrnod.
  • Sicrhewch fod y diwrnodau heb ddewisiadau wedi cael eu gosod i Dim Dewis wedi ei Wneud (gallwch chi ddiweddaru’r rhain yn ddiweddarach).
  • Cliciwch ar y botwm gwyrdd Prosesu i gadarnhau.

 

Os bydd eich ysgol yn gofyn i chi gael balans yn eich cyfrif Prydau Bwyd ar gyfer prydau bwyd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, mae eich dewisiadau yn mynd i mewn i’ch Basged cyn eu cadarnhau. Bydd baner yn eich hysbysu i gwblhau’r taliad yn y fasged i gadarnhau eich dewisiadau, os oes angen.

Gallwch chi fynd at eich basged trwy dapio ar y botwm gwyrdd Ewch At y Fasged ar ôl ychwanegu eich dewis pryd bwyd, neu drwy lywio i Camau Cyflym > Basged.

Os oes gennych falans digonol i dalu am gost y dewisiadau prydau bwyd newydd ac unrhyw ddewisiadau prydau bwyd eraill yr ydych wedi eu gwneud o’r blaen ond na chodwyd tâl arnoch amdanynt eto, bydd tapio ar Man talu yn cadarnhau eich dewisiadau. Os na, bydd angen i chi gofnodi eich manylion am daliadau ar y sgrin nesaf i dalu’r gwahaniaeth cyn cadarnhau eich dewisiadau.

Golygu dewisiadau

I olygu dewis pryd bwyd sydd eisoes wedi cael ei wneud, rhaid i chi ddileu’r dewis pryd bwyd presennol yn gyntaf.

Os na fyddwch yn gwneud hyn yn gyntaf, byddwch yn gweld neges rybudd mewn ffenestr naid yn eich rhybuddio, trwy ddweud Roedd problem pan fyddwch yn ceisio newid y dewis pryd bwyd ac yn pwyso ar Prosesu.  

 

I ddileu dewis pryd bwyd i gael gwared ar y neges Roedd problem:

  • Cliciwch ar y diwrnod yr hoffech ei newid i agor y sgrin olygu.
  • Diweddarwch y dewis pryd bwyd i Dim Dewis wedi ei Wneud gan ddefnyddio’r gwymplen.
  • Cliciwch ar y botwm gwyrdd Prosesu i ddileu’r dewis.

Mae hyn yn newid y diwrnod yn ôl i Dim dewisiadau wedi eu gwneud.

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

 

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
38 allan o 164 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.