Diweddaru eich manylion gwarcheidwad eich hun ar y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Gallwch chi ddiweddaru eich manylion eich hun, fel eich manylion cyswllt, ar y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni.


Ar y Porth Rhieni

I newid eich cyfrinair, ewch i Fy Eitemau > Fy Nghyfrif a chlicio i newid eich cyfrinair.

 

I newid unrhyw fanylion eraill, ewch at broffil eich plentyn.

 

Sgroliwch i lawr a chlicio ar eich enw yn yr adran Teulu, Gwarcheidwaid a Chysylltiadau.

 

Yma, gallwch chi olygu unrhyw fanylion sydd â symbol >, er enghraifft:

  • gallwch ddewis neu newid y dull cysylltu yr ydych yn ei ffafrio, sef neges e-bost neu neges destun ar gyfer cael eich hysbysu pan mae eich plentyn yn absennol o’r ysgol. Cyngor Da: Mae hyn yn rhoi gwybod i’r ysgol pa ddull yr ydych yn ei ffafrio wrth wirio eich proffil, ond gall ddewis anfon trwy’r naill ddull neu’r llall.
  • ychwanegu Rhif Yswiriant Gwladol
  • newid eich enw neu’ch perthynas â’r plentyn
  • pa gyswllt blaenoriaeth ydych chi

 

Gallwch chi hefyd ychwanegu neu olygu rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu’ch cyfeiriad. Sylwch, os byddwch chi’n golygu eich cyfeiriad e-bost yn unig, neu’n ychwanegu un newydd ac yn ei farcio fel yr un arferol, hwn fydd eich enw defnyddiwr newydd ar gyfer mewngofnodi.

 

Os oes angen i chi ddiweddaru eich cyfeiriad, gallwch ddewis naill ai golygu’r cyfeiriad neu farcio eich bod wedi symud i gyfeiriad gwahanol.

 

Pan fyddwch chi’n gwneud hyn, mae angen i chi ddewis hefyd p’un a yw’r newidiadau hefyd yn berthnasol i unrhyw un y cofnodwyd ei fod/bod yn byw gyda chi ar hyn o bryd.

 


 

Ar yr Ap Rhieni

Cliciwch ar eicon y proffil yn y gwaelod ar yr ochr dde, a chlicio ar eich enw i ddiweddaru eich cyfrinair.

I newid unrhyw fanylion eraill, ewch at broffil eich plentyn.

Sgroliwch i lawr a chlicio ar eich enw yn yr adran Teulu, Gwarcheidwaid a Chysylltiadau.

Yma, gallwch chi olygu unrhyw fanylion sydd â symbol >, er enghraifft:

  • gallwch ddewis neu newid y dull cysylltu yr ydych yn ei ffafrio, sef neges e-bost neu neges destun ar gyfer cael eich hysbysu pan mae eich plentyn yn absennol o’r ysgol. Cyngor Da: Mae hyn yn rhoi gwybod i’r ysgol pa ddull yr ydych yn ei ffafrio wrth wirio eich proffil, ond gall ddewis anfon trwy’r naill ddull neu’r llall.
  • ychwanegu rhif Yswiriant Gwladol
  • newid eich enw neu’ch perthynas â’r plentyn
  • pa gyswllt blaenoriaeth ydych chi

Gallwch chi hefyd ychwanegu neu olygu rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu’ch cyfeiriad. Sylwch, os ydych chi’n golygu eich cyfeiriad e-bost yn unig, neu’n ychwanegu un newydd ac yn ei farcio fel yr un arferol, hwn fydd eich enw defnyddiwr newydd ar gyfer mewngofnodi.

Os oes angen i chi ddiweddaru eich cyfeiriad, gallwch ddewis naill ai golygu’r cyfeiriad neu farcio eich bod wedi symud i gyfeiriad gwahanol.

Pan fyddwch chi’n gwneud hyn, mae angen i chi ddewis hefyd p’un a yw’r newidiadau hefyd yn berthnasol i unrhyw un y cofnodwyd ei fod/bod yn byw gyda chi ar hyn o bryd.

Os oes rhaid i’ch ysgol dderbyn newidiadau i gofnodion, bydd y newidiadau’n dangos fel Dan ystyriaeth. Hyd nes caiff y manylion eu derbyn, gallwch chi glicio ar y newid a chanslo’r newid gan ddefnyddio’r botwm oren.

Wedi i’r newidiadau gael eu derbyn gan yr ysgol, gallwch chi olygu neu ddileu’r manylion hyn.

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
20 allan o 130 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.